Cob Conwy
Y Cob yw’r stribyn o dir sy’n croesi’r foryd rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno. Heddiw mae’n wythïen i gerbydau ffordd, trenau, cerddwyr a beicwyr sy’n dilyn Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Cyn y 1820au, byddai teithwyr yn croesi’r foryd ar gychod fferi – cludiant annibyniadwy a pheryglus. Cynlluniodd y peirianydd enwog Thomas Telford bont crog rhwng Castell Conwy a’r Ynys – yr enw ar ynys fechan gerllaw. Ym 1822 cychwynwyd ar y gwaith o godi arglawdd rhwng Yr Ynys a’r lan ddwyrieniol. Pan oedd y Cob yn gyflawn ym 1825, roedd holl ddwr y foryd yn gorfod pasio drwy’r adwy o dan y bont.
Yn y 1840au, llydanwyd y Cob ar gyfer traciau’r Chester & Holyhead Railway. Mae’r trenau hyd heddiw yn dringo’n serth o Gyffordd Llandudno i ochr ddwyreiniol Pont Tiwbaidd Robert Stephenson.
Yn 1888-89 gosodwyd parc ar yr Ynys, gyda meinciau a choed ynddo. Mae’r llun o’r Cob yn 1900 i’w weld yma trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Conwy. Newidiwyd cymeriad y Cob eto yn y 1920au, pan adeiladwyd “promenâd” dros y llethr i lawr at y dŵr ar yr ochr ogleddol. Mae'r hen gerdyn post yn dangos y Cob yn y 1930au.
Mae'r awyrlun, diolch i Lywodraeth Cymru, yn dangos y Cob ym 1945 gyda chroesfan trên nwyddau a phluen o stêm yn dod o'r locomotif. Gwnaed newidiadau pellach yn y 1950au ar y cyd ag adeiladu pont ffordd newydd, a gwblhawyd ym mis Rhagfyr 1958. Mae pont Telford bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Os edrychwch ar hyd y Cob o’r bont, fe welwch fod y wal barapet ymhell o fod yn syth! Yn ôl Llew Groom, hanesydd o Gonwy (yr oedd ei daid Llew Parry yn glerc gwaith), roedd gwaith adeiladu’r promenâd yn brin o arian a defnyddiwyd graean bras o’r aber yn lle creigiau mawr i adeiladu’r tir ym mhen Conwy. Pan setlodd y deunydd hwn yn ddiweddarach, gwthiodd y wal gynnal tuag allan. Roedd y wal barapet yn dilyn yr un llinell pan gafodd ei hadeiladu yn y 1950au gan y contractwr Llew Hughes, a elwid yn “Llew Brics”.
Ers y 1990au cynnar mae’r Cob wedi bod yn fyrach, oherwydd y tir a godwyd wrth adeiladu’r twnel sy’n arwain yr A55 ar draws y foryd.
Gwefan Gwasanaeth Archif Conwy