Fferm y brodyr Morris, Pentre Eirianell
Fferm y brodyr Morris, Pentre Eirianell
Yn ardal aber yr Afon Goch, mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio fferm Pentre Eirianell. Yn y 18fed ganrif, bu’r brodyr Morris rhyfeddol yn bywyma. Fe gyfranon nhw yn helaeth at ddiwylliant Cymreig – yn Llundain ac yng Nghymru – ac mae eu cannoedd o lythyrau at ei gilydd yn gofnod hanesyddol gwerthfawr.
Ganed y cyntaf o'r brodyr, Lewis Morris, yn 1701, chwe blynedd cyn i’w dad, Morris ap Rhisiart, symud i Bentre Eirianell o fferm arall ar Ynys Môn. Roedd Morris yn gowper yn ogystal â ffermwr, a bu farw yn 1763.
Cafodd Lewis nifer o swyddi swyddogol. Cynhyrchodd gynlluniau o borthladdoedd Cymru ar gyfer y Morlys. Fe ddaeth yn ddirprwy stiward tiroedd y Goron yn Sir Aberteifi, mewn cyfnod pan yr oedd llawer o dirfeddianwyr yn gwrthwynebu hawl y Goron i gyfoeth mwynau yr ardal. Er gwaethaf heriau’r swydd, roedd gan Lewis ddigon o egni i hyrwyddo gwaith beirdd ac awduron talentog, yn ogystal ag ysgrifennu ei gerddi ei hun. Roedd yn credu nad oedd digon o lyfrau ar gael yn y Gymraeg, a sefydlodd wasg argraffu ar Ynys Môn i gywiro hyn. Yr oedd hefyd yn fotanegydd a llysieuydd. Bu farw yn 1765 ac fe’i gladdwyd yn Llanbadarn-fawr, ger Aberystwyth.
Symudodd Richard Morris (1703-1779) i Lundain yn ddyn ifanc a bu'n gweithio fel clerc. Yn 1751 sefydlodd Gymdeithas y Cymmrodorion, gyda chymorth Lewis. Eu gobaith oedd creu sefydliad tebyg i’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Cymry Llundain. Roedd y gymdeithas yn boblogaidd ymhlith Cymry Llundain – ond yn fwy ar gyfer cymdeithasu na'r gweithgareddau ysgolheigaidd a oedd gan Richard a Lewis mewn golwg!
Trigai William Morris (1705-1763) gydol ei oes ar Ynys Môn. Yn 1737 penodwyd ef yn gasglwr tollau ym mhorthladd prysur Caergybi, lle y bu fyw hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn gerddor, gôr-feistr Eglwys Sant Cybi a chyfansoddwr emynau. Yr oedd hefyd yn fotanegydd, ac fe’i ymgynghorwyd ar faterion meddygol, cyfreithiol a busnes.
Roedd y pedwerydd brawd, John, yn swyddog morwrol. Tra yn gyflogedig gan Gwmni Dwyrain India Prydain, bu’n ymwneud â chludo caethweision o Fadagascar i India. Byddai rhai swyddogion llongau yn prynu caethweision a’u gwerthu ar ôl y fordaith, er elw personol. Mewn llythyr at un o'i frodyr, eglurodd John fod ganddo gaethwas i'w werthu. Lladdwyd John yn Dominica, yn 34 oed, wrth wasanaethu fel Prif Swyddog HMS Torbay ym 1740.
Mae cofeb i'r brodyr Morris – croes Geltaidd a godwyd yn 1910 – yn sefyll mewn cae wrth ochr yr A5025, 300 metr i'r de o'r fferm.
Cod post: LL70 9EX