Tafarn y Crown, Llwyndafydd
Tafarn y Crown, Llwyndafydd
Bu’r dafarn hon yn ganolfan bwysig ym mhentref Llwyndafydd ers amser maith. Yn ôl yr hanes bu byddin Harri Tudur yn gorffwyso yn y cyffiniau hyn ym 1485 ar y daith hir o Sir Benfro i Faes Bosworth. Cofnodwyd enw’r pentref yn Llwyn David ym 1488 ac yn llwyn Davydd yn yr 16 ganrif. Cysylltir yr anheddiad â fferm o’r enw Llwyn o bosibl, a oedd yn eiddo i Dafydd ab Ieuan (neu Dafydd ab Ifan) yn y 15 ganrif.
Yn ôl traddodiad, ar ôl ei goroni yn Harri VII, danfonodd Harri gorn yfed at Dafydd, a oedd wedi ei addurno’n gain ac yn dynodi tras Harri.
Mae Tafarn y Crown yn dyddio o gyfnod diweddarach. Roedd yn dafarn erbyn 1841. Am ei fod yn ganolog o ran y pentref, mae’n bosibl bod adeilad cynharach ar y safle. Cynhelid arwerthiannau yn y dafarn; arwerthiannau ffermydd lleol ynghyd â’u cynnwys a’r anifeiliaid. Ym 1907 y Crown ei hun oedd ar werth a chynhaliwyd yr arwerthiant yn y dafarn. Roedd yr eiddo yn cynnwys stabl a stordy a dros chwe chyfer o dir amaethyddol yn wynebu’r de.
Mae coel bod sawl ysbryd yn y dafarn; yn eu plith ysbryd sy’n gysylltiedig â’r smyglwyr yn y cwm diarffodd hwn. Mae deiliaid yr adeilad yn honni iddyn nhw glywed llais dynes a llais babi - a neb arall yn bresennol yn yr adeilad.
Diolch i Richard Morgan o Gymdeithas Enwau Lleodd Cymru am wybodaeth am enwau lleoedd ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA44 6BU Map