Adfeilion Caer Abergwaun
Yma, ar y penrhyn i’r gogledd o’r maes parcio, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dirwyn heibio i olion Caer Abergwaun. Codwyd y gaer yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America.
Y symbyliad i godi’r gaer oedd ymosodiad ar Abergwaun yn 1779 gan Stephen Manhant. Roedd ef yn gomander ar fwrdd herwlong Americanaidd (sef llong wedi’i hawdurdodi gan lywodraeth un genedl i ymosod ar longau a oedd yn eiddo i genedl arall). Er bod America wedi hawlio’i hannibyniaeth dair blynedd ynghynt, roedd Prydain heb gydnabod yr ymwahanu yn ffurfiol tan 1783. Yn 1778 roedd y dyfeisiwr Benjamin Franklin wedi’i anfon i Ffrainc. I bob pwrpas ef oedd llysgennad cyntaf America ac wedi annog Ffrainc i ymosod ar Brydain.
Roedd llong Manhant, y Black Prince, yn hwylio dan faner Ffrainc. Yn 1779 ysgrifennodd Franklin fod y cwch bychan hwn wedi’i throi’n herwlong yn Dunkirk a bod Manhunt, brodor o Boston, fel Franklin yntau, wedi dinistrio dros 30 o longau Prydain mewn cyfnod o dri mis. Roedd yn “ddigon hapus i hybu ymosodiadau o’r fath” gan fod modd cyfnewid carcharorion a gâi eu cipio dan yr amodau hyn am garcharorion Americanaidd.
Mynnai Manhant brydwerth ariannol sylweddol gan Abergwaun. Cafodd ei wrthod ac o’r herwydd anelwyd gynnau’r llong at y dref a difrodwyd rhai adeiladau. Mae’n debyg i berchennog llong leol, smyglwr yn ôl pob sôn, saethu nôl. Pan ddechreuwyd tanio gynnau mawr o’r lan hwyliodd Manhant ymaith.
Roedd yr ymosodiad wedi darbwyllo’r llywodraeth bod angen amddiffyn harbwr prysur Abergwaun yn fwy effeithiol. Adeiladwyd y gaer ddechrau’r 1780au.
Yn 1797 ceisiodd lluoedd Ffrainc ymosod ar Brydain trwy Abergwaun ond drylliwyd eu hymdrechion gan drigolion lleol medrus. Er mwyn diogelu eu cyflenwad prin o fwledi, saethodd y gynnwyr yn y gaer fwledi gweigion. Gymaint oedd y twrw fel y cafodd y Ffrancod eu darbwyllo i lanio yn Llanwnda, yn ddigon pell o’r harbwr!
Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r gaer yn gynnar yn y 19eg ganrif. Yr hyn sydd yn y golwg heddiw yw ffos wedi’i naddu o’r graig, stordy arfau, ac olion magnelfa.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad