Safle noddfa i ffoaduriaid o Wlad Belg, Llandrindod
Safle noddfa i ffoaduriaid o Wlad Belg, Llandrindod
Darparwyd llety i ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn Nhŷ Templefield. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel cyn ehangu Gwesty’r Metropole yn y 1920au. Roedd Tŷ Templefield yn sefyll ble saif rhan fwyaf gogleddol y Metropole heddiw (i’r chwith os edrychwch ar du blaen y gwesty o Temple Street).
Daeth tua 250,000 o bobl o Wlad Belg i’r Deyrnas Unedig ym 1914 i geisio lloches ar ôl i luoedd arfog Yr Almaen lifo i rannau dwyreiniol y wlad. Roedd Llandrindod yn gwirfoddoli i gynnig llety i rai ohonynt. Aeth y Crynwr lleol Charles Binyon ati i sefydlu Pwyllgor Cymorth Gwlad Belg. Erbyn Ionawr 1915 roedd 20 o ffoaduriaid yn y dre yn byw gyda’i gilydd mewn nifer o adeiladau.
Anfonodd pobl leol fwyd a rhoddion eraill i’r “Noddfa Ffoaduriaid o Wlad Belg” yn Temple Street. Cododd y bobl o Wlad Belg arian tuag at gynnal eu hunain trwy weithgareddau megis rhoi gwersi Ffrangeg, gwneud basgedi a cherfwaith pren. Gadawodd un o’r ffoaduriaid ym mis Ionawr 1915 ar ôl cael gwaith gyda chwmni llongau yn Lerpwl. Ymunodd un arall â Byddin Prydain. Erbyn mis Tachwedd 1916 roedd pob un o’r ffoaduriaid wedi gadael y dre heblaw am un.
Ym mis Ionawr 1916 trefnodd y ffoaduriaid a oedd yn byw yn Templefield gyngerdd Nos Galan yn y tŷ, lle perfformiodd pobl leol a’r rhai o Wlad Belg. Canodd y ffoadur Marcel Joostens ddeuawd gyda gwraig y rheithor, Ida Singers-Davies. Cafodd ei fab, hefyd o’r enw Marcel, ei ganmol am ei ddewrder yn ystod cyngerdd yn yr Ysgol Sir. Aeth golau troed diffygiol ar dân a chydiodd y fflamau yng ngwisg dylwyth teg ei gyd-ddisgybl, Peggy Watmough. Rhedodd hi’n llawn braw tuag at grŵp o blant ond ffoesant bob un, ar wahân i Marcel. Rhwygodd ef y wisg oddi amdani gan losgi ei fraich a’i law. Ni chafodd Peggy ei brifo ac yn ddiweddarach cyflwynodd hi lyfr yn dwyn ei henw fel rhodd ganddi hi a’i mam ddiolchgar, a oedd yn rhedeg Gwesty’r Beaufort. Bu farw brawd Peggy, John o lid yr ymennydd ym 1915 yn ddeunaw oed.
Cyn i'r rhyfel ddechrau roedd Tŷ Templeton yn gartref i Mrs Coleman, a aeth i fyw yn Wellington Road yn ddiweddarach. Bu ei mab, Louis yn gwasanaethu gyda Milwyr Traed Canada a bu farw yng Ngwlad Belg ym mis Ebrill 1915.
Côd Post: LD1 5DY Map
I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, peidiwch a symud i ffwrdd. Mae’r codau QR am hanes Gwesty’r Metropole wrth y fynedfa |