Cerdyn post Bae Colwyn: Ffermydd gwynt ar y môr
Cerdyn post gwenithfaen: Ffermydd gwynt ar y môr
Mae’r cerdyn gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn dangos tri o’r tyrbinau gwynt niferus sy’n sefyll yn y môr i’r gogledd oddi yma.
Y fferm wynt gyntaf i gael ei hadeiladu oedd North Hoyle, yn 2003-2004, oedd yn cynnwys 30 tyrbin. Dyma safle pŵer gwynt ar y môr cyntaf y DU.
Yn 2015, cwblhawyd fferm wynt fwy, Gwynt y Môr, oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Mae ganddi 160 o dyrbinau gwynt, mwy na 13km (8 milltir) allan yn y môr. Mae’r strwythurau’n codi i 150 medr uwchben lefel y môr. Wedi iddi gael ei chwblhau, Gwynt y Môr oedd yr ail fferm wynt fwyaf ar y môr yn y byd – yn ail yn unig i 175 tyrbin y London Array ym moryd yr afon Tafwys.
Dywedir fod Gwynt y Môr yn cynhyrchu digon o drydan i bweru oddeutu 400,000 o gartrefi. Mae ei thyrbinau wedi eu gosod ar draws ardal o oddeutu 80 km sgwâr. Roedd y fferm wynt yn ganlyniad i fuddsoddiad o £2biliwn gan RWE a’i bartneriaid Stadtwerke München a Siemens.
Datblygwyd dociau Mostyn, Sir y Fflint fel canolfan adeiladu a chynnal a chadw’r ffermydd gwynt. Cafodd rhai o’r llongau a ddefnyddiwyd ar gyfer adeiladu North Hoyle eu trosi yn gychod pysgota. Roedd rhaid i gapteiniaid a pheirianwyr ddysgu sut i osod technoleg newydd ac ymdrin ag amrediad llanw llydan Gogledd Cymru.
Roedd rhai o byst sylfaen y tyrbinau yn pwyso 700 tunnell. Mae’r sylfeini hyd at 28 medr o dan yr arwyneb.
Mae trydan o’r tyrbinau yn mynd i ddwy is-orsaf ar y môr i gychwyn ac yn i’r lan ym Mhensarn, ger Abergele drwy gebl tanfor. Oddi yno, mae’n pasio drwy gebl 117km (7 milltir) tanddaearol i is-orsaf i'r gorllewin o Lanelwy, lle mae'r pŵer yn cael ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol.
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.