Eglwys y Santes Wenddolen, Talgarth
Eglwys y Santes Wenddolen, Talgarth
Dywedir bod yr eglwys ganoloesol hon yn sefyll ar safle lle cafodd y Santes Wenddolen ei chladdu. Yn ôl pob sôn, hi oedd un o ddisgynyddion sanctaidd lu’r brenin Brychan Brycheiniog o’r 5ed ganrif.
Yn y 1090au, rhoddwyd yr eglwys yn Nhalgarth i Briordy Aberhonddu gan Bernard de Neufmarche, arglwydd Normanaidd Aberhonddu.
Dyddia llawer o’r eglwys bresennol o tua 1400, pryd ailddefnyddiwyd elfennau o ffenestri cynharach yr eglwys. Codwyd y tŵr yn y 15fed ganrif ac mae ganddo chwe chloch o’r 18fed ganrif. Gwnaethpwyd rhai newidiadau wrth ei hadfer ym 1873.
Mae Hywel Harris (1714-1773) wedi’i gladdu ger yr allor. Fe’i hysbrydolwyd i ymgymryd â phregethu gan bregethau Pryce Davies, ficer Talgarth, ym 1735. Daeth yn un o hoelion wyth arweinwyr esblygiad Methodistiaeth yng Nghymru ac fe’i hystyrir gan rai fel Cymro mwyaf dylanwadol ei amser. Ym 1752 sefydlodd gymuned Fethodistaidd yn Nhrefeca ger Talgarth a ddaeth yn nes ymlaen yn goleg hyfforddi i bregethwyr.
Gall ei gladdedigaeth mewn eglwys Anglicanaidd ein taro yn rhyfedd, ond at ei gilydd nid oedd gan Fethodistiaid eu mynwentydd eu hunain. Mae ei dad, yntau hefyd o’r enw Hywel, wedi’i gladdu yn y fynwent yn ogystal.
Ar biler y tu mewn i’r eglwys ceir rhestr y gwroniaid sy’n dangos enwau’r dynion lleol a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn yr eglwys ym mis Medi 1917 i anrhydeddu’r 13 o ddynion o Dalgarth oedd wedi marw yn y rhyfel erbyn hynny. Darllenir enwau meirwon lleol y ddau ryfel byd yng ngwasanaeth Sul y Cofio yn yr eglwys ym mis Tachwedd bob blwyddyn pryd bydd plant yn gosod torch wrth y piler coffa.
Ceir saith bedd rhyfel swyddogol yn y fynwent - cliciwch yma am fanylion.
Cod post: LD3 0BH Map