Hanes i Bawb
Mae clipiau fideo Iaith Arwyddion Prydain, gyda throslais ac isdeitlau, yn ymddangos ar wefan HistoryPoints i ehangu mynediad at wybodaeth hanesyddol yn y fan a’r lle. Mae Iaith Arwyddion Prydain (IAP) yn iaith gydnabyddedig sydd â strwythur gwahanol iawn i Gymraeg a Saesneg a dyna yw’r iaith a ffafrir ar gyfer nifer o bobl sy'n fyddar neu'n profi nam ar y synhwyrau.
Gallwch weld y fideos ar ffonau clyfar neu gyfrifiaduron tabled drwy sganio codau QR HistoryPoints ym mhob un o’r lleoliadau a restrir isod. Neu gael golwg arnyn nhw gartref ar eich cyfrifiadur pen-desg neu liniadur – clicwich ar enw’r lleoliad yn y rhestr.
Mae’r fideos cyntaf yn canolbwyntio ar safleoedd o ddiddordeb o fewn tref gaerog Conwy. Fe’u cynhyrchwyd gan y Centre for Sign Sight Sound ym Mae Colwyn fel rhan o’r Prosiect Canolfan Ddiwylliant Dair-ieithog, sydd hefyd wedi darparu arwyddion a goleuadau hygyrch yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Trefnwyd y prosiect gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda chyllid gan LEADER, Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer Conwy, a phartneriaid eraill.
Rhestr o leoliadau gyda fideos IAP
Castell Conwy
Plas Mawr, Conwy
Cerflun Llywelyn Fawr, Conwy
Tŷ Lleiaf Prydain Fawr, Conwy
Pont Diwbaidd Stephenson, Conwy
Black Lion Inn blaenorol, Conwy
Safle Parlwr Mawr, Conwy
Hen Sinema'r Palace, Conwy
Gwesty'r Castell, Conwy
Tafarn y Liverpool Arms, Conwy
Tŵr Giât Cilddor, Conwy
Canolfan Cregyn Gleision Conwy