Portico Gwesty’r Penrhyn Arms, Bangor
Portico Gwesty’r Penrhyn Arms, Bangor
Y portico hwn yw’r cyfan sydd ar ôl o Westy’r Penrhyn Arms, lle’r oedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru wedi’i leoli yn ystod ei ddegawdau cyntaf.
Adeiladwyd y gwesty fel hen dafarn y goets fawr yn 1799. Y pensaer oedd Benjamin Wyatt, a ddyluniodd y Fferyllfa Ffyddlon yn ddiweddarach sy’n dal i sefyll gerllaw.
Yn y 1870au bu i gurad Llanedwen, Ynys Môn, rannu gwely yn y gwesty gyda’i lysferch. Yn ddiweddarach anfonwyd ef i’r carchar am ddweud celwydd ynghylch tadogaeth eu baban a oedd wedi marw.
Yn y 1880au cystadlodd nifer o drefi i ddod yn gartref Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Cyrhaeddodd Bangor, Caernarfon, Conwy, Dinbych, y Rhyl a Wrecsam y rhestr fer, a dewiswyd Bangor. Casglwyd llawer o’r arian ar gyfer y sefydliad newydd gan weithwyr a oedd yn cyfrannu canran o’u cyflog. Bu i lowyr ei hunain gasglu mwy na £1,250, ac roedd oddeutu 8,000 o danysgrifwyr i gyd.
Cytunodd Ystâd y Penrhyn i brydlesu’r gwesty i’r coleg prifysgol newydd am £200 y flwyddyn. Ar 18 Hydref 1884, ymgynullodd torf fawr yma ar gyfer yr agoriad swyddogol (llun i’r dde). Gosodwyd y dywediad “Gorau arf, dysg” uwch ben y portico. Roedd 58 o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf honno. Roedd eu llyfrgell wedi’i lleoli yng nghyn-gegin a chegin cefn y gwesty, a’r ystafell ysmygu yn un o’r stablau. Ychwanegwyd ystafelloedd gwyddoniaeth yn ddiweddarach.
Agorwyd adeilad prifysgol grand newydd yn 1911. Hyd heddiw mae’n dal i fod yn ganolbwynt i Brifysgol Bangor. Hyd at 1926, parhaodd y coleg i ddefnyddio’r Penrhyn Arms, a gafodd ei ddinistrio pan ailgyfeiriwyd prif ffordd yr A5 ar draws y tir lle safodd y gwesty.
Gyda diolch i David Roberts, o Brifysgol Bangor, ac i Anna Lewis, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, am y cyfieithiad