Canolfan Ambiwlans Awyr Cymru, Dinas Dinlle
Ers 2003 mae Maes Awyr Caernarfon wedi bod yn gartref i hofrennydd Gogledd Cymru Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r elusen, a sefydlwyd yn 2001, yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i gadw ei hofrenyddion yn hedfan.
Pan ddechreuodd hedfan o Gaernarfon, defnyddiodd hofrennydd Bolkow 105 DBs (yn y llun ar y dde) gyda pharafeddygon ar ei bwrdd. I ddechrau, roedd yn gweithredu pum niwrnod yr wythnos, ond cyn bo hir cynyddodd hyn i saith. Erbyn 2018 roedd yr elusen yn gweithredu pedwar hofrennydd, wedi'u lleoli yma ac yn y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd.
Mae ambiwlans awyr yn mynd â chleifion i'r ysbyty yn llawer cynt nag sy'n bosib mewn ambiwlans ffordd. Mae'r gwasanaeth yng Nghymru yn cludo ymgynghorwyr y GIG ac ymarferwyr gofal critigol, gan alluogi'r claf i dderbyn gofal critigol cyn cyrraedd yr ysbyty.
Mae'r ambiwlans awyr hefyd yn trosglwyddo cleifion o ysbytai a chyfleusterau gofal eraill i ganolfannau arbenigol.
Mae'r peilotiaid yn fedrus iawn - yn glanio'r hofrenyddion mewn lleoliadau anarferol a chyfyngedig! Mae llun o 2019 yn dangos yr hofrennydd ar alwad brys y tu allan i Gastell Caernarfon.
Yn 2019 daeth yr ambiwlans awyr o Gaernarfon at Hannah, tair oed ac mewn meithrinfa yng ngogledd-orllewin Cymru. Roedd hi'n cael ffitiau ac fe stopiodd anadlu tua phedair neu bum gwaith. Yn dilyn triniaeth yn y fan a'r lle, cafodd ei hedfan i'r ysbyty, lle cafodd ragor o ofal arbenigol.
Fe wellodd yn dda, diolch i sioncrwydd meddwl staff y feithrinfa a gofal brys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a meddygon Ambiwlans Awyr Cymru.
Dywedodd mam Hannah: "Rwy'n argyhoeddedig na fyddai fy merch yma heddiw os na chawsom yr help cyflym ag y gwnaethon ni. Maent yn gwneud gwaith rhyfeddol. Angylion ydyn nhw yn yr awyr. Pan fydd hi'n hŷn, byddaf yn dweud popeth wrthi am sut y daeth yr hofrennydd i'w hachub."
Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen codi £8m bob blwyddyn i barhau i achub bywydau.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL54 5TP Gweld Map Lleoliad
Gwefan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru