Buarthau'r Gyrn
Mae'r gorlan amlgellog hon yn un o nifer yn y Carneddau yn Eryri, lle mae defaid sy'n pori ar lethrau'r mynyddoedd yn cael eu hel at ei gilydd a'u didoli ar adegau penodol o'r flwyddyn.
Mae'r gorlan wedi'i lleoli 507 metr uwchben lefel y môr nid hepelll o gopa'r Gyrn, y mynydd sy'n rhoi ei enw iddi. Corlan yw'r gair a ddefnyddir yn gyffredinol i ddisgrifio lle caeedig ar gyfer cadw defaid, ond, yn ardal y Carneddau, defnyddir y term buarth yn aml i gyfeirio at gorlannau casglu.
Mae cyfran helaeth o'r Carneddau yn dir pori comin, lle mae defaid o wahanol ffermydd yn cymysgu yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Mae ffermwyr yn gweithio ar y cyd i gasglu'r holl ddefaid ynghyd deirgwaith y flwyddyn: ym mis Gorffennaf ar gyfer cneifio; ym mis Medi ar gyfer gwahanu'r ŵyn oddi wrth y mamogiaid; ac ym mis Hydref neu Dachwedd pan gaiff y defaid i gyd eu hel i lawr o'r mynydd i bori ar dir isel dros y gaeaf ac i baratoi ar gyfer wyna.
Mae'r corlannau amlgellog hyn yn adeileddau cymunedol, ac fel nifer o gorlannau eraill, mae Buarthau'r Gyrn yn dal i gael ei defnyddio heddiw. Mae ganddi 20 o gelloedd, gan gynnwys cell gasglu fawr ger y fynedfa lle caiff y defaid eu gyrru yn barod i'w didoli i'r celloedd unigol sydd wedi'u pennu ar gyfer pob fferm. Mae ffermwyr yn adnabod y defaid wrth y marciau lliw ar eu cefnau neu wrth eu nodau clust (toriadau yn y clustiau sy'n unigryw i bob fferm) ac yn eu gyrru trwy dyllau yn y waliau mewnol i'r celloedd llai o amgylch y canol.
Mae defaid crwydr, neu ddefaid diarth, defaid sydd ddim yn perthyn i unrhyw un o'r ffermydd sy'n defnyddio'r corlannau, yn cael eu dychwelyd i'w perchnogion gan y prif fugail, neu'r 'setiwr'. Mae'r enw hwn yn deillio o'r gair Saesneg escheater, swyddog brenhinol yn yr Oesoedd Canol a oedd yn gyfrifol am hawlio asedau i'r Goron pan fyddai person yn marw heb unrhyw etifeddion.
Mae corlannau hynaf y Carneddau yn dyddio o tua'r 18fed ganrif, pan ddechreuodd stadau mawr ac unigolion cyfoethog amgáu’r tir comin ar y mynyddoedd. Disodlwyd gwartheg gan ddefaid fel y prif anifeiliaid pori ar y Carneddau gan eu bod yn fwy proffidiol, yn enwedig pan gynyddodd y galw am wlân a chig defaid yn ystod rhyfeloedd Napoleon 1800-1815.
Mae Buarthau'r Gyrn i'w gweld ar fap yn dyddio o 1786 ac mae'n debyg iddi gael ei hadeiladu rywbryd yn y 100 mlynedd cyn hynny.
Gyda diolch i Nigel Beidas o Cofnodi Corlannau
Cyfeirnod grid: SH6483268863 Map
Gwefan Cofnodi Corlannau – manylion a lluniau buarthau'r Carneddau