Cyn blasty’r esgob, Abergwili

Rhwng tua 1291 a 1541 coleg oedd yr adeilad hwn, sy'n gartref bellach i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Sefydlwyd y coleg, a gysegrwyd i'r Seintiau Maurice a Thomas, gan yr Esgob Bek o Dyddewi a oedd cyn hynny yn ganghellor Prifysgol Rhydychen. Mae'n bosibl fod ei gyfnod yn Rhydychen wedi dylanwadu ar ddyluniad cwrt clawstredig yr adeilad, sydd bellach yn neuadd dan do.

Engraving of bishop's palace c.1820Symudodd y coleg i Aberhonddu ym 1541, ac yna daeth yr adeilad yn brif breswylfa'r esgob. Roedd cynlluniau yr adeg honno i godi eglwys gadeiriol yng Nghaerfyrddin yn lle Eglwys Gadeiriol Tyddewi am fod Tyddewi ym mhellafoedd gorllewin Cymru. Aeth palas yr esgob yn Nhyddewi rhwng y cŵn a'r brain, a bellach mae'n cael ei gynnal fel heneb adfeiliedig.

Mae'r engrafiad yn dangos yr adeilad tua 1820 ac mae'r ffotograff, gan Charles Smith Allen, yn dyddio o 1871. Gwelir y ddau lun yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Photo of bishop's palace in 1871Un o'r esgobion a fu'n byw yma oedd Richard Davies, a fu'n helpu William Salesbury i lunio'r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Testament Newydd rhwng 1563 a 1567. Mae cofeb i William Salesbury yn ei bentref genedigol, sef Llansannan, Conwy.

Bu i'r adeilad gael ei addasu droeon dros y canrifoedd dilynol. Codwyd amrywiaeth o dai allan ar y tir helaeth oedd o amgylch y palas. Ymhlith y rhain oedd porthordy a godwyd yn gynnar yn oes Fictoria. Ym 1903 difrodwyd yr adeilad gan dân, ond fe'i hailgodwyd ac yno y bu'r esgobion yn byw tan 1972.

Bellach mae'r adeilad yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Mae'r gwrthrychau sy'n cael eu harddangos yn adrodd hanes y sir ar hyd y canrifoedd. Y tu mewn, mae capel yr esgobion hefyd yn agored i ymwelwyr.

Cod post: SA31 2JG    Map

Gwefan Amgueddfa Sir Gaerfyrddin