Datgelu Enwau Porthaethwy

Logo of Welsh Place Name Society

Datgelu Enwau Porthaethwy

Fel llawer o drefi eraill yng Nghymru mae dau enw gan Porthaethwy (enw Cymraeg ac enw Saesneg), ac mae mwy nag un enw, yn ogystal, i rai nodweddion lleol. Maen nhw’n dystiolaeth o natur ddwyieithog y gymuned, amrywiaeth o gysylltiadau hanesyddol ac o’r newid yn hanes tirnodau lleol.

Yn y 1970au mabwysiadodd y cyngor trefol bolisi dwyieithog o ran dynodi enwau strydoedd. Sicrhaodd hyn fod hen enwau Cymraeg ar y strydoedd yn cael eu cynrychioli â pharch; dangoswyd, yn ogystal, rai enwau newydd sy’n cynrychioli defnydd mwy diweddar.

Fe’ch gwahoddwn i ddilyn ein taith o amgylch safleoedd â chod QR yn y dref. Byddwch yn darganfod fod pob enw lle yn drysorfa gwirioneddol o wybodaeth am hanes lleol. Mae modd pwyso ar fotwm i glywed sut i gynanu rhai enwau Cymraeg ac fe ddowch i adnabod ac i ddeall enwau tirnodau sydd ymhellach i ffwrdd.

Trefnir y daith a’r wybodaeth gan History Points a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd Cymru ac am eu gwarchod.

Pwyswch yma i weld map sy’n dangos lleoliad y codau QR.

I gychwyn ar y daith, sganiwch un o’r codau QR gyda’ch ffôn glyfar neu dabled. Mae’r rhestr ar y dde yn eich galluogi i ymuno â’r daith ar-lein. Pwyswch y botwm ar odre pob tudalen i ganfod y lleoliad nesaf ar y daith. Byddwch yn dychwelyd i fan cychwyn y daith, maes o law.

Maes parcio yn agos at Bont y Borth
Troed Bont y Borth
Dwyrain y dref
Sgwâr Uxbridge