Llwybr yr hen Ffordd Post, Cricieth

Llwybr yr hen Ffordd Post, Cricieth

Mae llwybr yr arfordir i'r gorllewin o’r llidiart yma yn gyfochrog â llwybr y "Ffordd Post" a oedd yn gwasanaethu’r ardal cyn adeiladu’r ffordd dyrpeg yn 1807 (mewn cysylltiad â'r Cob ym Mhorthmadog). Wrth i chi sefyll yma, dychmygwch geffylau yn dilyn y trac tra’n cario paciau yn llawn nwyddau, neu’r certi a dynnwyd gan geffylau bach. Doedd y llwybr ddim yn addas ar gyfer unrhyw beth mwy o faint.

Roedd Cricieth ar y pryd yn ynysig. Roedd cyfathrebu â'r byd y tu allan yn araf ac yn anodd, gyda’r ffyrdd mor wael. Byddai smaciau – llongau hwylio bach – yn teithio efo cynnyrch a theithwyr ar hyd yr arfordir. Roeddynt yn defnyddio llawer o gilfachau a childraethau, a'r traethau agored, i lwytho a dadlwytho.

Tua'r gorllewin oddi yma, roedd yr hen "Fordd Post"  yn parhau tuag at geg yr afon Dwyfor. Roedd dwy ryd a phont yn croesi'r afon. Mae'r clogwyni wedi dioddef o erydiad, ac roedd y “Ffordd Post” ymhellach tua’r môr na’r trac presennol.

Tua'r dwyrain, codai’r trac i fyny bryn y castell, heibio i'r gymuned fechan a elwir Y Dref, ac wedyn disgyn i'r traeth ar yr ochr arall. Cyn i'r rhodfa gael ei adeiladu yno, roedd y traeth yn llawn o glogfeini mawr, ac roedd y trac yn troelli o’u hamgylch.

Yn union tua'r môr o’r llidiart yma, ar ddiwedd Maes Abereistedd, fe adeiladwyd "blwch bilsen" (pill box) yn 1940 – sef cwt gyda waliau a tho o goncrid trwchus. Byddai gynnau wedi tanio drwy agoriadau bach yn y waliau petai’r Natsïaid wedi ceisio ymosod o'r môr. Enw’r trigolion ar y cwt oedd yr "Home Guard". Cafodd ei ddymchwel ym 1963.

Gyda diolch i Robert Cadwalader

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button