Cerdyn post Bae Colwyn: Chwedl y Tywysog Madog

CCBC logo for Post cards from colwyn bay tourCerdyn post gwenithfaen: Chwedl y Tywysog Madog

Image of Prince Madog granite postcard

Mae’r cerdyn post gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn darlunio’r daith drawsiwerydd a wnaed gan y Tywysog Madog yn 1170, yn ôl y chwedl, gan gychwyn o’r man a adnabyddir heddiw fel Llandrillo yn Rhos.

Dywed fod Madog yn fab i'r llywodraethwr Madog ab Owain Gwynedd.   Roedd wedi cael llond bol o’r cynllwynion gwleidyddol yng Nghymru, ac fe ymgasglodd grŵp o bobl i sefydlu trefedigaeth ar ochr draw i’r Iwerydd. Mae rhai haneswyr yn awgrymu mai’r Llychlynwyr a wnaeth y trefniadau cludo - arbenigwyr ar forwriaeth dros bellter hir.

Dywed fod Madog wedi glanio yn Alabama neu Fflorida ac iddo ddychwelyd i Gymru i fynd â rhagor o wladfawyr, dynion a merched, i America. Ni chafodd ei weld ac nid oedd unrhyw sôn amdano ar ôl ei ail ymadawiad. 

Mae’r llinell arall ar y cerdyn post gwenithfaen yn darlunio siwrnai’r morwr a’r morlywiwr Eidalaidd Christopher Columbus, a gredir yn aml iddo ‘ddarganfod’ America yn 1492.  Fodd bynnag, mae’n debyg i Leif Erikson o Wlad yr Iâ gyrraedd yno rhyw 500 mlynedd cyn Columbus, ac mae chwedl arall yn adrodd hanes Sant Brendan, mynach Gwyddelig, a deithiodd i America ac yn ôl i Iwerddon yn y 6ed Ganrif.

Cliciwch yma i weld ein tudalen we a map sy’n ymwneud â safle ymadael honedig y Tywysog Madog yn 1170.

Cod post: LL29 8PT

Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.

Postcards from Colwyn Bay Tour label Navigation go East buttonNavigation blank button