Glanfa Gemau Olympaidd Llundain, Llanberis

Link to commissioned work information pages

Glanfa Gemau Olympaidd Llundain, Llanberis

Photo of pontoon during OlympicsDefnyddiwyd y lanfa sy'n arnofio yn y fan hon ar ddyfroedd Llyn Padarn i gyflwyno medalau yng Ngemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012.

Gwyliodd miliynau o bobl y rhwyfwyr, y merched a'r dynion, ar y teledu yn derbyn eu medalau ar y pontŵn arnofiol yng nghanolfan rwyfo a chanŵio Eton Dorney ger Windsor. Y regata rwyfo Olympaidd o 28 Gorffennaf i 4 Awst 2012 oedd y fwyaf llwyddiannus erioed i rwyfwyr o Brydain - enillasant bedair medal aur mewn pedair ras, arian mewn dwy ac efydd mewn tair. Roedd buddugoliaeth Helen Glover a Heather Stanning yn ras parau'r merched yn achlysur hynod o gyffrous i'r genedl gartref gan mai hon oedd medal aur gyntaf Prydain yng Ngemau Olympaidd 2012. Mae'r lluniau ar y dde yn eu dangos yn cyrraedd y pontŵn ac yn ystod y seremoni wobrwyo.

Photo of Olympics ceremony on pontoon

Adeiladwyd y pontynau gan Poralu Marine yn Ffrainc ac fe'u gosodwyd gan Nautic Marine Ltd. o Hampshire. Fe'u gorchuddiwyd gyda charped coch ar gyfer cyflwyno'r medalau.

Caffaelwyd y lanfa gan Gyngor Gwynedd yn 2013 ac fe'i gosodwyd yn Llyn Padarn at ddefnydd y cyhoedd. Mae llawer o bobl yn mwynhau chwaraeon dŵr megis caiacio, rhwyfo a chanŵio ar y llyn, sydd hefyd yn gartref i Glwb Cychod Prifysgol Bangor.

Llyn Padarn oedd lleoliad y cystadlaethau rhwyfo yng Ngemau'r Gymanwlad ym 1958, a gynhaliwyd yng Nghymru. Roedd rhai o'r rasys yn heriol i'r rhwyfwyr am fod awel gref yn creu tonnau ar wyneb y llyn!

Gyda diolch i Steve Carr o Nautic Marine am y lluniau

Map

LON LAS PERIS Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button