Delw Aneurin Bevan, Caerdydd

Delw Aneurin Bevan, Heol y Frenhines, Caerdydd

Mae'r cerflun ym mhen gorllewinol Heol y Frenhines yn darlunio Aneurin Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Yr oedd yn areithiwr grymus, a dewisodd y cerflunydd, Robert Thomas, i’w bortreadu yn areithio, gyda’i fraich dde wedi ymestyn i bwysleisio rhywbeth rhethregol.

Ganed Bevan yn Nhredegar yn 1897. Roedd ganddo naw o frodyr a chwiorydd. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed a dilynodd ei dad i’r diwydiant glo. Treuliodd oriau lawer yn addysgu ei hun yn Neuadd Gweithwyr Tredegar cyn ennill ysgoloriaeth i’r Coleg Llafur Canolog yn Llundain yn 1919. Yn ystod y 1920au cafodd ei ethol i gynghorau Tredegar a Sir Fynwy ac, yn 1929, fel AS Llafur Glyn Ebwy. Priododd Jennie Lee, AS Llafur arall, yn 1934. Ni chafodd y cwpl blant.

Ar ôl i’r Blaid Lafur ennill etholiad cyffredinol 1945, penodwyd Bevan yn Weinidog Iechyd ac aeth ati i ddisodli system gofal iechyd preifat Prydain gyda gofal meddygol a deintyddol am ddim i bawb a fyddai’n cyfrannu at y cynllun Yswiriant Gwladol. Bu gwrthwynebiad hir gan feddygon, ond safodd Bevan yn gadarn ac fe lansiwyd y GIG fis Gorffennaf 1948.

Ym 1951 fe ymddiswyddodd o'r cabinet mewn protest, wedi i’r llywodraeth awgyrmu taliadau yn y GIG. Daeth Bevan yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn 1959 ond bu farw o ganser yn 1960. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol yn Abaty Westminster. Codwyd pedair carreg coffa mawr ger Tredegar, ar ochr bryn lle y bu Bevan gynt yn areithio.

Mae'r cerflun, a godwyd yma yn 1987, yn un o nifer yng nghanol Caerdydd gan Robert Thomas (1926-1999). Hanai o Gwmparc, Rhondda, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn un o'r “Bevin Boys” (dynion a anfonwyd i weithio mewn pyllau glo). Mae llawer o'i gerfluniau’n cyfleu cynhesrwydd neu nodweddion pobl, yn wahanol i'r cerfluniau ffurfiol Fictoraidd y gallwch eu gweld yng Nghaerdydd.

Cod post: CF10 2BU    Map