Cyn dŷ John Lloyd, Caernarfon

slate-plaque

Cyn dŷ John Lloyd, Caernarfon

Frondeg oedd cartref y pensaer John Lloyd a’i deulu. Gellir gweld ei ddylanwad ar bensaernïaeth Fictoraidd Caernarfon ledled y dref. Nid oes tystiolaeth iddo gael unrhyw hyfforddiant pensaernïol. Fel llawer yn ystod yr oes honno, seiliwyd ei yrfa ar hunan-addysg a gallu naturiol i droi syniadau yn gynlluniau.

Credir iddo gael ei eni ym 1793. Ei dad oedd y Capten William Lloyd o Stryd y Jêl, a oedd yn “Swyddog Cychod Custom House” pan oedd swyddogion tollau wedi’u lleoli yng Ngwesty’r Anglesey Arms erbyn hyn. Priododd John â Grace Davies, merch y Capten Griffith Davies, ar 13 Mai 1815 a bu iddynt chwech o blant. Dyluniodd gartref iddo ef a’i deulu yma, gan edrych dros y Fenai, yn ogystal a’r mwyafrif o dai ei gymdogion yn Twthill.

Un o'i weithiau cynharaf oedd Capel Wesleaidd Ebeneser. Chwaraeodd yr achos Wesleaidd ran bwysig yn ei fywyd, gan ei fod yn bregethwr cynorthwyol ac yn gyd-ymddiriedolwr y capel gyda RM Preece, tad Syr William Preece. Mae'n debyg iddo gynllunio'r llawer o gapeli Wesleaidd yn yr ardal. Gellir dadlau bod John Lloyd yn un o benseiri pwysicaf Gogledd Cymru ei gyfnod. Gellir gweld ei waith mewn llawer o gymunedau eraill yn y rhanbarth.

Ar ôl salwch hir, bu farw ar 24 Hydref 1867 yn 74. Claddwyd ef bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Eglwys Llanbeblig. Gadawyd popeth yn ei ewyllys i'w ŵyr, John Lloyd Nealey. 

Dyma’r prif adeiladau a gynlluniodd ar gyfer Caernarfon:

Gyda diolch i Rhiannon James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1PE    Map