Gorsaf reilffordd Ynys y Barri
Agorodd yr orsaf hon y drws i ddatblygiad Ynys y Barri fel cyrchfan ac ardal breswyl. Agorodd ym mis Awst 1896 ar ôl i’r Barry Railway adeiladu arglawdd ar draws yr harbwr a thraphont ddur uwchben seidins glo'r harbwr.
Bum mis cyn i'r orsaf agor, dechreuwyd trenau o Gwm Rhondda i'r Barri, fel y gallai "glowyr a'u gwragedd a'u teuluoedd" gyrraedd glan y môr yn hawdd. Roedd y platfformau yng "ngorsaf reilffordd gyfleus" Ynys y Barri yn 150 metr (500 troedfedd) o hyd. Safai’r orsaf tua 65 metr o'r traeth.
Tra bod yr orsaf yn cael ei chwblhau, cloddiwyd twnnel 260 metr i ymestyn y rheilffordd i bier newydd. Dim ond pan fyddai llongau teithwyr yn galw yno y byddai trenau'n mynd i orsaf y pier. Peidiodd agerlongau'r White Funnel Fleet â defnyddio'r pier yn 1971, a chaeodd twnnel y rheilffordd. Mae'r llun o'r awyr o 1943, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y ddwy orsaf - gweler y troednodiadau am fanylion. Mae'r llun lliw, gan Rhodri Clark, yn dyddio o 1993.
Ychwanegwyd at drenau rheolaidd Ynys y Barri gyda rhai arbennig ar ddyddiadau allweddol, gan gynnwys "pythefnos y glowyr" (gwyliau blynyddol y pyllau glo) ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst.
Gosododd y Sweetmeat Automatic Machine Company beiriant gwerthu yn yr orsaf ond darganfyddodd plant lleol sut i ddwyn y siocled. Dilynodd cyfres o achosion llys. Cyfaddefodd un bachgen i ladrad yn 1906 ar ôl i 31 o ddisgiau gael eu canfod yng nghynhwysydd darnau arian y peiriant. Condemniodd ei gyfreithiwr amddiffyn y "demtasiwn" a gynigai’r peiriant i fechgyn.
Bu llai o bobl yn teithio ar y trên i Ynys y Barri gyda thwf perchnogaeth ceir torfol, ond yn 1966 rhoddodd gwersyll gwyliau newydd Butlin hwb newydd i'r trenau. Dros yr 20 mlynedd canlynol, daeth llawer o selogion rheilffordd i Ynys y Barri i weld locomotifau stêm adfeiliedig yn aros i gael eu sgrapio ar yr hen leiniau glo. Achubodd selogion y rhan fwyaf o'r locomotifau i'w hadfer i drefn weithio.
Defnyddiwyd un o'r traciau rheilffordd i Ynys y Barri ddechrau'r 21ain ganrif ar gyfer reidiau stêm Rheilffordd Twristiaeth y Barri. Fe'i prynwyd gan Trafnidiaeth Cymru yn 2022 ar y cyd â chyflwyno trenau tri-modd, sy'n tynnu pŵer o wifrau trydan uwchben, batris ar fwrdd neu beiriannau diesel.
Rhestrwyd adeilad gorsaf Ynys y Barri, sy'n cadw llawer o nodweddion gwreiddiol, yn 2023.
Cod post: CF62 5TH Map
Troednodiadau: Beth allwch ei weld yn y llun awyr o 1943
Mae gorsaf Ynys y Barri yn y gornel dde isaf, ochr yn ochr â ‘roller-coaster’ yn y ffair. Ger canol y llun mae ceg y twnnel lle parhaodd y rheilffordd i orsaf y pier, yn y gornel chwith uchaf.
Mae dau falŵn amddiffyn gwyn o amser rhyfel i'w gweld, un ger gorsaf Ynys y Barri a'r llall ym Mhwynt Nell. Roeddent yn rhan o'r amddiffynfeydd o amgylch dociau'r Barri. Roedd yna hefyd safleoedd gynnau a goleuadau chwilio arfordirol ym Mhwynt Nell.