Coed y Gopa, ger Abergele

button-theme-prehistoric-more

Mae llawer o bobl yn ymweld â Choed y Gopa i fwynhau'r golygfeydd ar hyd yr arfordir o'r copa. Mae'r daith gerdded i'r brig yn mynd trwy ardaloedd o goetir hynafol. Mae'r coed wedi'u hatalnodi gan laswelltiroedd calchfaen. Un o'r planhigion prin a geir yma yw Crafanc yr Arth (stinking hellebore). Yn 1989 trosglwyddwyd y goedwig i ofal Coed Cadw (Woodland Trust), ar ôl apêl codi arian lleol.

Photo of lesser horseshoe batsMae Coed y Gopa yn gynefin pwysig i ystlumod, gan ei fod yn un o'r safleoedd gaeafgysgu mwyaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar gyfer yr ystlum pedol lleiaf. Mae'r llun gan Mike Castle yn dangos dau ohonynt mewn gaeafgwsg. Mae ystlumod Natterer ac ystlumod y dŵr (Daubentons bat) i'w gweld yma hefyd.

Mae'r ystlumod yn manteisio ar ogofâu calchfaen a'r twneli o fwyngloddiau segur lle cynhyrchwyd plwm a chopr ar un adeg. Roedd y Rhufeiniaid yn cloddio plwm yma, o wythïen a elwir Ffos y Bleiddiaid.

Tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl roedd bryngaer fawr ar gopa Coed y Gopa, yn gorchuddio ardal o tua 190 metr wrth 130 metr. Defnyddiodd serthrwydd naturiol y ddaear fel amddiffyniad naturiol rhag ymosodiad o'r de a'r dwyrain. Mae gweddillion y gaer wedi cael eu hadnabod ers amser maith fel Castell Cawr.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad

Gwefan gwarchodfa Coed y Gopa

Coed Cadw ar HistoryPoints.org