Gwesty'r Royal Ship, Dolgellau

button-theme-crimeGwesty’r Royal Ship, Dolgellau

Credir i’r adeilad hwn ddyddio o tua 1800. Roedd y ffrynt tair llawr yn rhan o ehangiad y gwesty hanner canrif yn ddiweddarach. Cynhaliwyd digwyddiadau fel arwerthiannau a gwleddau yma yn aml.

Roedd llawer o ymwelwyr cefnog yn aros yma, yn cynnwys masnachwr o Stafford o’r enw George Francis Griffin, mab i ynad a chyn-faer Stafford. Diwrnod ar ôl iddo adael y gwesty ym mis Medi 1865, canfuwyd corff baban wrth ymyl yr afon Mawddach ger Dolgellau wedi'i lapio mewn papur newydd. Roedd enw Griffin wedi ei farcio â phensel ar y papur newydd.

Roedd Griffin wedi cael perthynas gyda gwraig cadw tŷ ei dad. Dywedodd hi wrth y llys barn fod y baban wedi ei geni’n farw ac ei bod wedi gofyn i Griffin i gladdu’r ferch mewn mynwent. Gan ofni y byddai’r stori ymledu dros y dref, teithiodd i Ddolgellau gyda’r corff wedi ei lapio mewn papur brown a phapur newydd. Yn hwyrach, dywedodd wrth y fam ei fod wedi taflu'r corff i'r môr. Cafodd hi ei dedfrydu i ddiwrnod yn y carchar a Griffin i bythefnos.

Gwasanaethodd Edward Jones, landlord y gwesty ar hyn o bryd, ar fwrdd yr ysgol, y bwrdd iechyd lleol a chyrff amrywiol eraill. Ym 1865 ef oedd y person cyntaf yn Nolgellau i dderbyn nwyddau ar y trên, pan gyrhaeddod llwyth o "lo Rhiwabon" mewn wagen yn y trên cyntaf i gyrraedd Dolgellau. Bu farw’n sydyn, yn 45 oed, yn 1876, gan adael gweddw ac wyth o blant bach.

Photo of Royal Ship Hotel and garage in 1930

Arhosodd Charles Herbert Longworth o Fanceinion un noson yn y Royal Ship ym mis Mawrth 1900. Cafwyd hyd i’w  gorff yn Llyn Arran dri mis yn ddiweddarach, ynghyd ag oriawr aur a dolenni llawes, bocs matsis arian a dannedd gosod aur. Datgelodd ei frawd wrth y cwest fod Charles wedi ymgasglu dyledion o £18,000 yn fuan cyn teithio i Ddolgellau – mwy na £2m yn arian heddiw!

Bu farw Martha Evans o westy'r Royal Ship yn 59 oed ym mis Chwefror 1918 tra bu ei meibion, Is-gapten William Evans a Magnelwr Rod Evans, yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ôl y papur newydd Y Dydd, roedd y rhyfel yn bryder mawr iddi “a diau i hynny fod a llaw mewn prysuro ei diwedd”.

Ar ôl y rhyfel, sefydlodd un o fecanegion cynharaf y Llu Awyr Brenhinol fusnes newydd – Modurdy’r Royal Ship – ar y tir i’r chwith o’r gwesty (lle mae Banc Barclays heddiw). Hysbysebai Gwilym B Richards fod ei wasanaeth yn y rhyfel gyda'r Llu Awyr Brenhinol a’r  "cludiant milwrol" yn gwarantu trylwyredd y gwaith atgyweirio yn ei fodurdy. Daliodd rhannau sbâr ar gyfer ceir, beiciau modur a beiciau, ac roedd yn gwerthu olew a phetrol. Mae'r llun yn dangos y gwesty a’r modurdy yn 1930.

Cod post: LL40 1AR    Map

Gwefan y Royal Ship

Alexandra Gardens memorial tour label Navigation previous buttonNavigation next button