Sarn y Drenewydd, Glynebwy
Mae ffordd y B4486 yn croesi’r dyffryn ar sarn neu arglawdd a adeiladwyd ar gyfer tramffordd ddiwydiannol (rheilffordd sylfaenol). Roedd trac tramffordd yn dal i groesi’r sarn ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Fe adeiladwyd y Sarn oddeutu 1790 er mwyn i fwyn haearn o’r gorllewin gyrraedd y gweithfeydd haearn newydd, a oedd wedi’u lleoli lle’r ydych bellach yn gweld Clos Pen-y-cae. Roedd y mwyn yn cael ei arllwys i mewn i’r ffwrneisi o ben y wal gynnal y tu ôl i’r tai yno. Roedd y sarn yn darparu llwybr gwastad at ben y ffwrneisi, fel nad oedd y ceffylau’n blino wrth fynd i lawr a dringo i fyny.
I ddechrau dim ond un bwa oedd yn y sarn, a hwnnw’n croesi’r afon. Ym 1813 fe ychwanegwyd agoriad er mwyn i’r ffordd dyrpeg (lle mae Ffordd y Gweithfeydd Dur heddiw) basio o dan y dramffordd.
Yn y 1850au fe baratowyd cynlluniau i estyn prif reilffordd y dyffryn trwy’r bwa i gyrraedd Beaufort. Roedd hyn yn golygu adeiladu trydydd bwa (bwa Rhes Wesleaidd) i ddargyfeirio’r ffordd dyrpeg. I ddechrau fe osodwyd bwa pren dros dro, i gadw’r dramffordd ar agor, ond fe ddymchwelodd hwnnw a rhan o’r sarn ym 1859, gan ladd William Jenkins a Charles Lewis.
Roedd llygad dyst wedi camu o’r neilltu i adael i ddau geffyl William, a oedd yn tynnu pedwar “tram pwll glo”, fynd heibio. Dihangodd John a’r ceffylau i dir diogel ond fe gwympodd William i’w farwolaeth, gan adael ei wraig a phump o blant. Cafodd Charles, gweithiwr adeiladu, ei gladdu o dan y gweddillion am oriau.
Mae’r ffotograffau uchaf yn dangos dau ben bwa’r Rheilffordd Orllewinol Fawr (mae’r trên yn gadael i gyfeiriad Casnewydd). Mae’r ffotograff canol yn dangos y bwa gorllewinol o’r gogledd. Mae’r olwg o’r awyr yn dangos y sarn gyfan, gan gynnwys y bwa dros yr afon, ym 1948.
Roedd y dramffordd yn ymrannu i’r gorllewin o’r sarn. Roedd un gangen yn mynd tua’r de heibio Stryd y Farchnad a Stryd Bethcar. Roedd y gangen arall yn pasio Rhes y Glowyr cyn troi tua’r gorllewin.
Gosodwyd pont ar wahân ar gyfer cerddwyr yn y 1960au ar bwys bwa Rhes Wesleaidd.
Ym 1922 fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent waith atgyweirio a chadw i fwa 1813, a adwaenid fel y Bwa Mawr. Roedd hyn yn cynnwys gosod barrau atgyfnerthu a diddosi. Ailadeiladwyd rhan o linell y GWR ar gyfer agoriad gorsaf Tref Glynebwy yn 2015.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac i Lywodraeth Cymru am y llun o'r awyr ac i Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy am y lluniau eraill
Cod post: NP23 6YN Map
![]() |