Cyn gartref y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards, Caernarfon
Cyn gartref y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards, Caernarfon
Ar un adeg roedd y byngalo hwn yn gartref i Dilys Elwyn Edwards. Bu'n byw am y rhan fwyaf o'i hoes yng Nghaernarfon, lle cynhyrchodd lawer o gyfansoddiadau lleisiol coeth.
Fe'i ganed yn Dilys Roberts yn Nolgellau ym mis Awst 1918. Roedd ei thad yn ganwr, arweinydd corawl a chwaraewr ewffoniwm. Ar ôl mynychu Ysgol Dr Williams yn Nolgellau, cynigiwyd ysgoloriaeth iddi yng Ngholeg Girton yng Nghaergrawnt ac Ysgoloriaeth Joseph Parry yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Dewisodd Gaerdydd, lle bu'n astudio o dan David Evans. Darlledodd y BBC rai o'i chaneuon cynnar.
Ar ôl graddio, bu’n dysgu yn Ysgol Dr Williams am dair blynedd cyn ennill ysgoloriaeth gyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Yno, bu’n astudio gyda’r cyfansoddwr Saesneg Herbert Howells.
Priododd ag Elwyn Edwards ym 1947. Roedd y cwpl yn byw yn Rhydychen cyn symud i Gymru pan ddaeth yn weinidog ar Eglwys Bresbyteraidd Sgwâr y Castell yng Nghaernarfon ym 1951.
O 1973 ymlaen roedd Dilys yn diwtor piano yn y Coleg Normal a Choleg y Brifysgol ym Mangor. Byddai'n aml yn cymryd rhan mewn darllediadau radio a theledu ac yn beirniadu yn eisteddfodau.
Roedd ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys Caneuon Gwynedd a Caneuon y Tri Aderyn. Roedd ei cherddoriaeth wedi eu gosod i waith rai o feirdd Cymreig mwyaf y ganrif, gan gynnwys R Williams Parry, Dic Jones, T Gwynn Jones, Gwyn Thomas a Saunders Lewis.
Ymhlith y caneuon roedd Mae Hiraeth yn y Môr, ei gwaith mwyaf adnabyddus. Cyflwynodd Dilys y gân i Kenneth Bowen. Defnyddiwch y ddolen YouTube isod i wrando arno yn canu’r gân. Cewch lawrlwytho meu brynu’r albwm o wefan Sain trwy ddilyn y ddolen isod.
Bu farw Dilys ym mis Ionawr 2012 mewn cartref nyrsio yn Llanberis. Cafodd canmlwyddiant ei genedigaeth ei nodi gan gyngerdd mawreddog ym Mhontio, Bangor. Comisiynwyd y bardd Ifor ap Glyn i ysgrifennu soned i'w choffáu – isod.
Gyda diolch i Rhiannon James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon. Ffynhonellau yn cynnwys y Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cod post: LL55 1BH Map
Gwefan Sain – lawrlwythwch albwm Kenneth Bowen neu brynwch ar CD
Troednodiadau: Cerdd er cof am Dilys Elwyn Edwards
Hiraeth am eos
Byrlymai'i nodau'n anwel yn y coed,
cyn torri'r canu yn ei flas bob tro,
a thrwsio'i phlu - ni wyddai neb ei hoed-
bu'n cyfansoddi'n reddfol ers cyn co'.
Mae hiraeth am ei dawn greu alaw dlws
a ddaliai'r geiriau'n dwt, fel ŵy mewn nyth
- er cystal oedd ei chân am agor drws
at galon cerdd, ni ddeuai iddi'n syth...
Fel cordda traed yr alarch dan y dŵr
i gynnal ei osgeiddrwydd ar y llyn,
fe weithiai hithau'n ddygyn iawn, bid siwr,
nes cloi'r llifeiriant nodau'n batrwm tynn.
Mae hiraeth yn y nodau hyn o hyd;
drwy'i chân, mae hithau'n dal i harddu'n byd.
Ifor ap Glyn