Rheilffordd Fairbourne

sign-out

Rheilffordd Fairbourne

Ym 1895 ariannodd y teicŵn blawd Arthur McDougall adeiladu tramffordd o Bwynt Penrhyn ar gyfer cludo deunyddiau adeiladu ar gyfer pentref newydd Fairbourne. Yn fuan wedi hynny, gallai twristiaid deithio mewn tramiau wedi'u tynnu gan geffylau ar hyd y trac, lle’r oedd 61cm rhwng y cledrau.

Photo of horse-drawn tram at Fairbourne

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cymerwyd y dramffordd drosodd gan Narrow Gauge Railways Ltd, a oedd wedi gweithredu trenau stêm bach mewn parciau hwyl ac arddangosfeydd nes i'r rhyfel ymyrryd. Roedd tramffordd Fairbourne yn gartref newydd delfrydol ar gyfer trenau’r cwmni, unwaith y cafodd yr hen reiliau eu disodli gan draciau efo 38cm (15 modfedd) rhwng y cledrau.

Pan aeth y cwmni i drafferthion ym 1924, cymerodd y Fairbourne Estate and Development Co yr awenau, gan brydlesu'r rheilffordd 4km o hyd ar un adeg i weithredwr y cwch fferi rhwng Y Bermo a Phwynt Penrhyn. Gwnaeth gweithgareddau milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ddifrodi'r trac, ond ailagorodd Rheilffordd Fairbourne ym 1947 a mwynhau blynyddoedd da nes i dwristiaeth glan môr Prydain ddirywio yn y 1970au a'r 1980au.

Aeth y trac yn gulach eto – dim ond 31cm rhwng y cledrau – ym 1986 ar ôl newid perchnogaeth arall. Disodlwyd yr hen drenau â rhai newydd, gan gynnwys pedair injan stêm sy'n atgynyrchiadau hanner maint locomotifau mesur cul o Gymru, Lloegr ac India.

Ym 1990 caeodd a dirywiodd y rheilffordd nes iddi gael ei phrynu ym 1995 gan yr Athro a Mrs Atkinson a Dr a Mrs Melton, a weithiodd heb unrhyw dâl i ddiogelu'r darn unigryw hwn o hanes Cymru a chaniatáu i ymwelwyr fwynhau'r daith eto. Ers 2009 mae'r rheilffordd wedi bod yn nwylo corff elusennol sy'n ymroi i sicrhau ei ddyfodol tymor hir.

Cod post: LL38 2EX    Map

Gwefan Rheilffordd Fairbourne

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button