Ffordd Billy Collins, Glynebwy
Fe enwyd y ffordd hon yn 2024 ar ôl Billy Collins (1902-69), a gollodd ei freichiau mewn damwain ddiwydiannol pan oedd yn fachgen. Aeth ymlaen i fod yn glerc a difyrrwr ysbrydoledig.
Ganed William George Collins i John a Susannah Collins. Coediwr mewn pwll glo oedd John, ac yntau’n gweithio dan ddaear. Ym 1911 roedd y teulu, gan gynnwys tri mab a dwy ferch, yn byw yn Harcourt Street.
Roedd yn beth cyffredin i blant mewn trefi diwydiannol gael ychydig flynyddoedd o addysg yn yr ysgol ac yna dechrau gweithio mewn ffatrïoedd a glofeydd, lle’r oedd llawer o beryglon. Bu Billy’n gweithio mewn gweithfeydd brics yng Nglynebwy tan ei 14eg pen-blwydd ym 1916. Ar y diwrnod hwnnw cafodd ei ddal yn ddamweiniol mewn peiriant. Bu’n rhaid torri ei freichiau i ffwrdd yn gyfan gwbl.
Dysgodd sut i ddefnyddio rhannau eraill o’i gorff i gyflawni nifer o dasgau sydd fel arfer yn cael eu cyflawni â llaw, gan gynnwys peintio â brws yn ei geg, chwarae’r piano â’i drwyn a chau botymau ei ddillad gan ddefnyddio bysedd ei draed. Bu cynulleidfaoedd mewn neuaddau cerdd yn gwylio’n llawn syndod wrth i “Billy’r Dewin Difreichiau” gyflawni tasgau yr oeddent hwy’n meddwl na allent ond cael eu cyflawni â bysedd a breichiau.
Ym 1939 roedd Billy’n glerc gweithfeydd brics, ac yntau’n byw yn Letchworth Road. Yn ddiweddarach roedd yn glerc yng ngweithfeydd dur Glynebwy, lle’r oedd ei dasgau’n cynnwys agor llythyrau ac ysgrifennu nodiadau. Roedd yn ymweld â nifer o bobl eraill anabl ac yn ysgrifennu atynt gan ennyn gobaith ynddynt. Roeddent yn cynnwys dioddefwyr y cyffur Thalidomid a chyn-filwyr a adawyd yn anabl gan y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Roedd Ffordd Billy Collins yn ffordd ddienw ar hen safle’r gweithfeydd dur pan ddechreuodd Ciaran Mitchel-Neal, disgybl yn Ysgol Pen-y-Cwm, ymchwilio i hanes Billy tra’r oedd ar brofiad gwaith yn Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy. O ganlyniad i waith Ciaran, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent enwi’r ffordd er anrhydedd i Billy.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cod post: NP23 6AA Map


![]() |