Gorsaf Abergwaun a Gwdig

sign-out

Ailagorwyd yr orsaf hon ar 14 Mai 2012, 48 mlynedd ar ôl iddi gau mewn ymgyrch cwtogi gan Rheilffyrdd Prydeinig.

Roedd rheilffordd cyntaf Abergwaun yn rhannol yn eiddio i gwmni Gwyddelig, y Great Southern & Western Railway. Bu’r GSWR yn cydweithio ym 1898 â’r Great Western Railway i sefydlu llwybr cludiant newydd ar draws Môr Iwerddon. Roedd hyn yn golygu cwblhau harbwr yn Rosslare ac un arall yn Abergwaun, ac adeiladu rheilffyrdd i mewn i’r porthladdoedd. Pan agorodd gorsaf Wdig ar 1 Gorffennaf 1899, hon oedd y terminws i drenau teithwyr. Ail-enwyd yr orsaf yn Abergwaun a Gwdig ym 1904.

Roedd creu morglawdd a chei Abergwaun, wrth waelod clogwyn, yn dasg gymhleth. Ar 30 Awst 1906, dechreuodd y cyhoedd deithio ar y llwybr fferi newydd o Abergwaun, a oedd 45% yn fyrrach na'r fordaith blaenorol rhwng New Milford (Neyland) a Waterford. Darparwyd gorsaf gyda phedwar platfform yn Abergwaun, ar y cei newydd.

Caewyd gorsaf Abergwaun a Gwdig ym 1964. Byddai'r rheilffordd cyfan wedi cau onibai am y traffig a oedd yn dal i groesi’r môr. Erbyn yr 21ain ganrif, yr unig wasanaeth oedd un trên pob dydd i Harbwr Abergwaun ac un arall wedi hanner nos. Roedd y trenau wedi’u hamseru i gysylltu â llongau i ac o Rosslare. Roedd yn anymarferol i drigolion lleol i fynd i unrhyw le ar y trên a dychwelyd yr un diwrnod.

Yn 2009, trefnodd disgyblion ysgol o Drewyddel ddeiseb yn galw am fwy o drenau i Abergwaun. Llofnododd mwy na 1,100 o bobl y ddeiseb, a aeth at Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wasanaeth arbrofol am dair blynedd o drenau ychwanegol ar ddyddiau'r wythnos a dydd Sadwrn, gan ddechrau ym mis Medi 2011.

Roedd Cyngor Sir Penfro eisioes wedi prynu hen orsaf Gwdig ar gyfer cyfnewidfa trafnidiaeth yn y dyfodol. Gyda Network Rail a phartneriaid eraill, ailagorwyd yr orsaf ar frys. Roedd adeilad yr hen orsaf yn adfael, a chymerwyd ei le gan un newydd mewn arddull debyg.

Mae'r orsaf yn darparu mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Sir Benfro. Yma hefyd y mae man cychwyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, llwybr sy’n arwain i Lundain.

Am yr enw lle Gwdig:
Mae’r enw yn dynodi’r lle ger aber afon Gwdig neu afon Wdig, sydd yn llifo i Harbwr Abergwaun, ysgrifenna Dai Thorne. Gwdig yw’r ffurf a dderbyniwyd yn enw ar y pentref. Daw’r ffurf Wdig o Afon Wdig. Mae Gwddig yn ffurf gynharach ar enw’r afon. Ni chynigiwyd dehongliad boddhaol ar yr enw hyd yma.

Cod post: SA64 0DG    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation blank button