Gweithdy peiriannau yr hen waith brics, Porth-gain
Yr adeilad mawr, a elwir Tŷ Mawr yn lleol, yw’r unig adeilad sydd wedi goroesi ar safle gwaith brics Porth-gain – un o’r dyrnaid o safleoedd ym Mhrydain a gynhyrchai friciau o wastraff llechi.
O 1851 tan 1931, roedd Porth-gain yn bentref diwydiannol ac yn borthladd prysur. Roedd llechi ac ithfaen yn cael eu cloddio gerllaw er mwyn eu hallforio ac at ddibenion lleol. O 1889 ymlaen roedd gwaith brics ynghyd â dwy simdde yn taflu eu cysgod dros ganol y pentref.
Roedd y llechi lleol o ansawdd gwael. Am bob tunnell o lechi a godid o ddyfnder ymledol pwll y chwarel, byddai tunelli lawer yn cael eu gollwng i’r môr. Anodd oedd cloddio yn y fan hon a’r farchnad braidd yn anodd. Yn 1889 daeth cwmni’r chwarel yn eiddo i Herbert Birch, gŵr busnes o Fanceinion a chyflwynwyd amryw welliannau sylfaenol o ran dulliau gweithio ganddo ef.
Galluogai twnnel newydd 150 meter o hyd i ddramiau (cerbydau rheilffordd cyntefig) gludo’r llechi da a’r gwastraff o bwll y chwarel i’r harbwr. Câi’r llechi da eu trin yno a’u hallforio. Gellir gweld y twnnel hyd heddiw; y cyntaf ar du chwith yr harbwr ger y bwrdd dehongli.
Yn y Tŷ Mawr roedd y peiriannau a oedd yn briwsioni’r gwastraff, cyn ei weithio a’i gywasgu’n friciau. Byddai’r briciau yn cael eu crasu mewn odyn Hoffman gerllaw, yn yr adeilad â’r muriau crwm a welir mewn hen luniau. Gallai’r odyn gynhyrchu 50,000 o frics bob wythnos. Gellir gweld odyn Hoffman sylweddol ar gei Llanymynech, Powys.
Byddai’r brics yn cael eu caledu mewn siediau sychu (lle y mae’r maes pêl- droed, bellach). Mae’r llun isaf yn dangos gweithwyr y tu allan i’r siediau. Byddai mwyafrif y briciau yn cael eu hallforio i drefi a dinasoedd twf De Cymru a glannau Hafren. Mae’r hopranau sylweddol gyferbyn â’r harbwr wedi’u hadeiladu o friciau Porth-gain.
Yn 1912 y daeth cynhyrchu briciau i ben. Chwalwyd yr odyn yn 1926 a’r siediau sychu yn ystod y 1950au, ynghyd â simdde’r odyn a oedd yn 30 meter o uchder a simdde lai y cwt injans. Erbyn hyn mae Shed Bistro wedi meddiannu cytiau injan a bwylerdai gorffennol Tŷ Mawr. Gellir gweld pwtyn sgwâr o’r simdde frics y tu ôl i’r bistro. Mae Tŷ Mawr ar restr Gradd 2 ac yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro.
Diolch i Philip Lees, ac i Rob a Caroline Jones am yr hen luniau. Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne
Cod post: SA62 5BN Map
![]() |
![]() ![]() |