Yr Ysgol Frutanaidd gynt, Talgarth
Yr Ysgol Frutanaidd gynt, Talgarth
Ar gornel y Lôn Gefn a Lôn yr Ysgol saif yr Ysgol Frutanaidd gynt a thŷ’r ysgolfeistr gerllaw. Fe’u hadeiladwyd ym 1870 i roi addysg drwy gyfrwng y Saesneg i blant lleol; ystyriai’r llywodraeth ysgolion cyfrwng Cymraeg fel rhywbeth a ddaliai blant yn ôl. Roedd Ysgol Frutanaidd gynharach wedi agor ym 1845 wrth gyffordd Regent Street â Bell Street.
Torrodd WT Davies record sirol drwy aros yn brifathro yma o 1872 nes iddo gyrraedd oedran ymddeol ym 1916. Fe’i darbwyllwyd wedyn i barhau tan fis Gorffennaf 1920! Tua diwedd ei yrfa roedd yn dioddef o gryd cymalau.
Roedd gan yr ysgol ddwy ystafell ddosbarth nes i drydedd un gael ei hychwanegu ym 1878 gan adael i nifer y disgyblion gyrraedd 150. Fodd bynnag, gwrthodwyd mynediad i rai plant oherwydd bod y lle dan ei sang. Roedd 138 o ddisgyblion yn yr ysgol pan gafodd ei hailenwi’n Ysgol Gyngor Talgarth ym 1902 (pryd sefydlwyd awdurdodau addysg lleol yng Nghymru).
Ym 1915 paratôdd Mr Davies restr y gwroniaid ar gyfer y dynion yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd wedi’u dysgu yn yr ysgol. Ar y rhestr o 95 o ddynion roedd dau uwch-gapten, dau gapten, pedwar lefftenant a phrif beiriannydd. Bu farw rhai yn y brwydro. Listiodd y cyn-ddisgybl Basil Newells i wasanaethu ond bu farw mewn damwain beic. Mae mab Mr Davies, Percy, llawfeddyg, wedi’i gladdu mewn bedd rhyfel ym mynwent Talgarth. Gwasanaethodd gyda’r fyddin yn y rhyfel a bu farw mewn ysbyty ym 1921.
Roedd y cyfleusterau yn yr ysgol yn dal i fod yn wael ar yr adeg hon, gyda thoiledau y tu allan heb system fflysio. Byddai tymheredd yr ystafelloedd dosbarth yn syrthio islaw’r rhewbwynt yn y gaeaf a gallent fod yn anghyfforddus o boeth yn yr haf. Gosodwyd cyflenwad trydan ym 1921.
Nifer y disgyblion ar gyfartaledd i bob ystafell ddosbarth oedd ychydig o dan 50. Mae log yr ysgol yn cofnodi ar 5 Ebrill 1917 y cafwyd storm eira a dim ond 66 o ddisgyblion o gyfanswm o 147 fu’n bresennol. Anfonwyd deg ohonynt adref oherwydd ‘bod eu traed a’u coesau mor wlyb.’
Gyda diolch i Alan Lovell o Gymdeithas Hanesyddol Talgarth a’r Cylch
Cod post: LD3 0BB Map