Cyn Gwesty’r Castle, Llanberis

Gwesty’r Castle a dyfrle i sawl dyn yn Llanberis oedd yma. Mae’n siop SPAR a Swyddfa’r Post rŵan.

Pan werthodd Richards Rogers y gwesty yn 1861, broliodd am yr olygfaoedd o’r adeilad o’r llyn a’r chwareli dros y dyffryn, ond mae’n annhebyg y gellid gweld y llyn heblaw efallai o’r ffenestr uchaf un!

Drawing of Castle Hotel from 1940s Ind Coope leafletPrynwyd y gwesty gan y Cambrian Building Society o Gwmyglo am £820. Cychwynnwyd y gymdeithas fel gallai’r trigolion lleol fuddsoddi ond fe aeth i drafferthion pan ddisgynnodd gwerth tai’r ardal. Gwerthwyd sawl un o’i hadeiladau yn 1889 mewn ocsiwn yng Ngwesty’r Castle ym Mangor. Gwerthwyd y gwesty, y gerddi, y stablau a’r tŷ cerbyd am £720 i gwmni bragu Blake & Company, Bangor.

Daeth y gymdeithas i ben yn 1890 gyda’r aelodau’n colli arian. Yn lwcus cafodd Mary Jane Williams, tlotyn a fu’n byw yn y tloty lleol am gyfnod, ei harian yn ôl. Buddsoddodd £10 (tua £1,300 heddiw) yn y gymdeithas ac yn 1892 derbyniodd £16.

Extract from 1940s Ind Coope leaflet showing interior photosTrwy’r cyfnod cythryblus hwn fe roedd Edward Armsden yn rhedeg y lle fel tenant dafarnwr. Ceidwadwr a symudodd o Bedfordshire i Gymru c.1863 ydoedd, ac roedd yn dafarnwr yma erbyn 1865. Parhaodd ei deulu i redeg y gwesty ar ôl ei farwolaeth yn 1904.

Collwyd un o weithwyr y gwesty, William Lloyd Jones, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn Aelod o gôr eglwys Llanbeblig, Caernarfon, ac yna yn y Ffiwsilwyr Cymreig. Fe’i claddwyd ym mynwent rhyfel Gaza yn 1917 ac fe’i cofnodir ar y gofeb yn Llanberis a Chaernarfon.

Y cwmni bragu Ind Coope oedd y perchnogion ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Daw’r delweddau o daflen y gwesty a gadwodd rhieni Alan Cox, sef John a Georgie Cox o Gaer, ar ôl iddynt aros yma yn 1948.

Bu’n ganolfan i’r RAF wrth hyfforddi eu criwiau achub mynydd yn Eryri yn y 1970au. Defnyddiodd y Môr-filwyr Brenhinol y lle i’r un pwrpas hefyd. Cafwyd cwsmeriaid rhyngwladol yma wrth adeiladu’r orsaf bŵer hydro tanddaearol yng nghrombil chwarel Dinorwig. Gan i safle chwarel Glyn Rhonwy gael ei defnyddio fel storfa bomiau yn ystod y rhyfel bu’n ganolfan i sawl arbenigwr gwaredu bomiau a gymerodd sawl blwyddyn ar ôl y rhyfel i ddiogelu’r safle.

Rhieni Dave Williams, sef Bet ac Elfed, oedd y tafarnwyr olaf yma a chofiai fod yma dri bar: un i’r lleol, un i’r dringwyr a bar coctel! Roedd yma dimau dartiau a phwl.

Caeodd y gwesty yn 1980 gan ddechrau adfeilio. Bu’n rhaid tynnu’r grisiau dwbl er diogelwch. Yn awr mae wedi ei adfer fel siop a fflatiau.

Mae yna wagen rwbel o’r y tu allan i siop y SPAR.

Gyda diolch i Dave Williams ac Alan Cox, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 4SU     Gweld Map Lleoliad

Manylion siop Llanberis – gwefan SPAR