Cyn ffowndri De Winton, Caernarfon

sign-out

Cyn ffowndri De Winton, Ffordd Santes Helen, Caernarfon

Ar un adeg roedd yr adeilad hwn yn weithdy ffowndri De Winton, a oedd yn gwneud offer ar gyfer chwareli a llongau. Mae'n adnabyddus ymhlith selogion rheilffyrdd am ei boileri tren fertigol anarferol gyda’r llysenw ‘Coffee Pot’, ac mae un ohonynt yn cael ei arddangos yng ngorsaf Dinas.

Ffurfiwyd y cwmni ym 1854 gan Owen Thomas, a oedd eisoes yn rhedeg busnes ffowndri ffyniannus yma, a'r peiriannydd morol Jeffreys Parry De Winton. Roedd eu hadeiladau, a elwir yn Union Ironworks, yn cynnwys cyfres o adeiladau ar hyd Ffordd St Helen. Yr adeilad sydd wedi goroesi i'r gorllewin o'r gweithdy, gyda'i ffenestr addurniadol a'i amgylchoedd drws, oedd y swyddfa arlunio.

Masnachodd y cwmni fel Thomas & De Winton nes i Mr Thomas farw ym 1866, ac ar ôl hynny De Winton & Company ydoedd. Roedd yn gwneud boileri a rhannau eraill ar gyfer llawer o'r llongau stêm a oedd yn docio yng Nghaernarfon. Aeth allforion y ffowndri mor bell â Gogledd America ac India, tra bod chwareli cynyddol Gwynedd yn prynu byrddau llifio (ar gyfer torri llechi) a llawer o offer haearn bwrw eraill gan De Winton. Mae olwyn ddŵr fawr, a wnaed yma ym 1870, wedi'i chadw'n gweithio'n iawn yn yr hen weithdai llechi yn Llanberis, sydd bellach yn Amgueddfa Llechi Genedlaethol. Mae olwyn ddŵr De Winton arall wedi goroesi yn hen weithdai Chwarel y Penrhyn ym Methesda.

Gallwch weld dwy enghraifft o waith y cwmni yn agos yma. Mae injan dren De Winton yn cael ei arddangos yn adeilad gorsaf Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae'r bont droed dros y rheilffordd, ymhellach i'r de ar hyd Ffordd St Helen, yn cynnwys cydrannau a gastiwyd yma. Gwasanaethodd Mr De Winton fel maer Caernarfon am ddwy flynedd, a bu farw ym 1892. Dirywiodd masnach y ffowndri ar ddiwedd y 19eg ganrif, wrth i allforion llechi leihau a llai o longau ddod i Gaernarfon. Caeodd y ffowndri c.1901. Mae'r hen siop godi bellach yn gartref i gwmni plymio Oakmere.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad 

Cod post: LL55 2YD    Map

Gwefan Oakmere Plumbing

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button