Yr hen Griffin Inn, Y Struet, Aberhonddu

PWMP logoYr hen Griffin Inn, Y Struet, Aberhonddu

Arferai’r adeilad hwn fod yn gartref i’r Griffin Inn, neu’r Griffin Vaults. Mae’n dyddio’n ôl i ddechrau’r 18fed ganrif neu ychydig cyn hynny. Mae’n debyg bod yr wyneb sydd ar yr adeilad heddiw – gan gynnwys enw’r dafarn uwchben y drws canol – wedi’i ychwanegu yn ystod y 19eg ganrif.

Ddechrau’r 20fed ganrif bu Thomas James Barratt, a arferai fod yn gigydd ac yn werthwr llaeth, yn cadw’r dafarn. I ddechrau bu’n gweithio fel asiant i’r tafarnwr trwyddedig GR Smith, a oedd yn rheolwr gydag Arnold, Perrett & Co (bragdy o Swydd Gaerloyw). Daeth Mr Barratt yn dafarnwr trwyddedig y dafarn ym mis Mai 1918.

Ddeufis yn gynharach cafodd wybod bod ei fab, Arthur Waters Barratt, wedi marw ym Mrwydr y Somme. Bu Arthur yn gweithio fel dilledydd cynorthwyol yn Abercynon, yn ardal meysydd glo’r de, cyn ymfudo yn 1914 a dod yn gyfrifydd yn Melbourne. Yn 1915 ymunodd â Throedfilwyr Awstralia gan ddychwelyd i Ewrop.

Cafodd Arthur ei daro gan ffrwydryn ger Pozières ar ôl dilyn gorchmynion i fynd dros y top (gadael diogelwch y ffos) am oddeutu 12.30am. Ni chafodd ei gorff fyth ei ddarganfod. Dyddiad swyddogol ei farwolaeth oedd 29 Gorffennaf 1916. Roedd yn 24 oed.

Cafodd ei deulu wybod ei fod ar goll, ond ni chlywsant ragor nes i’w dad ysgrifennu at Gymdeithas y Groes Goch Brydeinig ym mis Mawrth 1918 i ofyn am wybodaeth. Bryd hynny y cafodd Thomas Barratt wybod ei bod yn hysbys i bob un o gymrodyr Arthur bod ei fab wedi marw ar 28 Gorffennaf 1916.

Yn 1919, cafodd Thomas Barratt ddirwy am adael i’w ast grwydro’n rhydd yn ystod y nos. Esboniodd ei bod mor hoff o aelodau Corfflu Cynorthwyol lleol Byddin y Merched, yn eu gwersyll gerllaw, fel na allai ei chadw oddi wrthynt!

Yn ddiweddarach, trowyd llawr gwaelod y dafarn yn siopau. Arferai’r siop ar y dde fod yn siop trin gwallt, cyn iddi ddod yn gartref i fusnes bwtsiera’r teulu Morgan yn 1999.

Gyda diolch i Steve Morris o Gymdeithas Hanes Lleol a Theulu Sir Brycheiniog

Cod post: LD3 7LT    Map

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, cerddwch tua’r de ar hyd y Struet. Mae’r codau QR nesaf wrth ymyl siop y barbwr ar y chwith, ger y man lle mae Heol Cantreselyf yn gwahanu oddi wrth y Stryd Fawr
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button