Cyn Westy'r Whitehall, Pwllheli
Cyn Westy'r Whitehall, Pwllheli
Mae'r rhan fwyaf o'r adeilad hwn yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 1818, pan gafodd adeilad cynharach ei helaethu. Yn 2014, cafodd ei ail-agor ar ei newydd wedd fel bar a thŷ bwyta.
Mae rhai ffynonellau'n dweud fod yma dollborth unwaith, wedi ei leoli ar y groesffordd lle'r oedd y priffyrdd i a thrwy Bwlheli'n cyd-gyfarfod. Un ohonyn nhw ydy Pen Lôn Llŷn, sef y brif ffordd ar y pryd i orllewin Penrhyn Llŷn.
Roedd Gwesty'r Whitehall yn gysylltiedig â'r Blaid Geidwadol yn oes Fictoria. Yma y byddai'r gangen leol yn cyfarfod, ac ym 1885, yma y byddai'r ymgeisydd etholiadol lleol yn aros wrth ganfasio. Bum mlynedd yn gynharach, ym Mawrth 1880, ceisiodd amryw o dirfeddianwyr, yn cynnwys George Sholto Gordon Douglas Pennant, yr AS Ceidwadol lleol, annerch y dyrfa ar ddiwrnod marchnad oddi ar lwyfan ar flaen y gwesty. Gwrthododd y dyrfa wrando ac yn lle hynny rhoesant eu cymeradwyaeth i Charles James Watkin Williams, yr ymgeisydd Rhyddfrydol a drechodd Pennant yn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno.
Ym Medi 1871, roedd morwyn yng Ngwesty'r Whitehall wedi cael ei hanafu wrth iddi agor drws y parlwr, ac achosi ffrwydriad nwy. Roedd y rhai oedd yn aros yno wedi bod yn hwyr yn noswylio'n noson cynt ac wedi anghofio troi'r nwy i ffwrdd. Achosodd y ffrwydriad niwed i'r drws ac i ran o'r mur.
Cafodd Elizabeth Jones, 22 oed, barforwyn yng Ngwesty'r Whitehall, ei chymryd i'r llys ym 1890 wedi ei chyhuddo o anfon llythyrau dydd Ffolant a oedd yn enllibio Owen Lewis, capten llong a brawd perchennog y gwesty. Roedd y llythyrau'n ei gyhuddo o fod yn "gapten tir sych", yn fwli'r dref, ac yn "ddiafol twyllodrus" a oedd wedi lladd ei ddwy wraig. Dywedwyd na allai'r manylion yn y llythyrau fod wedi cael eu hysgrifennu gan ferch ifanc oni bai fod ganddi'r "dyheadau butraf a mwyaf anllad". Aeth yr achos yr holl ffordd i Frawdlys Sir Gaernarfon (sy'n debyg i Lys y Goron heddiw). Cafodd y rheithgor y farforwyn yn ddi-euog, er boddhad i'r dyrfa o'r tu fewn ac o'r tu allan i'r llys barn.
Diolch i’r Parch Ioan W Gruffydd am y cyfieithiad
Cod post : LL53 5RG Map
![]() |
![]() ![]() |