Cymraeg Llanfairpwll war memorial FWW

Plwyf Llanfair Pwllgwyngyll

  • Preifat H.T. Alderson, Min y Don, 14 RWF. Herbert Thomas Alderson, oedd mab Florence a Walter Alderson o’r Swyddfa Deligraff. Bu farw wrth nofio ar 7 Mehefin  1917. Roedd wedi bod yn Ffrainc ers 18 mis, ac roedd yn cael cyfnod o seibiant o’r ffosydd. 20 mlwydd oedd Preifat Alderson. Fe’i claddwyd yn Terlincthun, Wimille,  Pas de Calais.
  • Is-Ringyll W. R. Black, Tan Dinas, 13  RWF. Athro ysgol yn Llanddeusant oedd William Richard Black ar gychwyn y Rhyfel Mawr. Ym mis Medi 1917, fe ddyfarnwyd y Fedal Filwrol iddo. Yn drist iawn, ddeufis yn ddiweddarach, ar 14 Tachwedd 14 1917 bu farw. Yn ôl cofnodion y CWGC roedd yn  23 mlwydd oed. Fe’i claddwyd ym Mynwent Erquinghem-Lys. Mae yna gofnod ohono ar Gofeb Ysgol Uwchradd Llangefni hefyd.
  • Preifat H. Edwards, Rose Hill Cottage, 16 RWF. Fe’i lladdwyd yn Ffrainc ar 25 Chwefror 1917. Roedd yn  21 mlwydd oed.
  • Peiriannydd H. Edwards, Tan y Graig, SS Cecil.  Bu farw’r Peiriannydd Edwards, a oedd yn 47 mlwydd oed, pan suddwyd yr SS Cecil ger aber yr afon Somme, Pas de Calais, yn Rhagfyr 1915. Yn 47 mlwydd oed, ef oedd yr hynaf o fechgyn Llanfair i farw yn y Rhyfel Mawr.
  • Preifat R. Evans, Tai’r Lôn, 9 RWF. Robert Evans oedd mab Evan a Margaret Evans,  Maesincla, Caernarfon, a gŵr Mary Catherine Evans,  Tal y Bont, Llanfair Pwllgwyngyll. Bu farw ar 25 Medi 1915. Roedd 37 mlwydd oed ac mae ei enw ar Gofeb Loos.
  • Preifat W. J. Evans, Maenafon, 17 RWF. William John Evans oedd mab Owen a Mary Evans,  Glangors, Llanfair Pwllgwyngyll. Bu farw ar 24 Awst 1917. Llanc ifanc 19 mlwydd oed ydoedd pan fu farw. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Mendinghem yng Ngwlad Belg.
  • Preifat R. Fair, Swyddfa’r Stad, 14 Catrawd Warwick Regiment. 23 oed oedd Bob Fair pan gafodd ei ddal fel Carcharor Rhyfel yn 1917.  Bu farw ar 26 Hydref 1917, ac mae ei enw wedi ei gofnodi ar Gofeb Tyne Cot Memorial yng Ngwlad Belg.
  • Capten J. L. Horridge, Plas Llanfair, RAF. Roedd John Leslie Horridge yn fab i John Horridge, Plas Llanfair, a Boholt House, Bury. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Uppingham. Ym 1915 fe enillodd le yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt, ond yn hytrach na mynd i’r coleg, fe ymunodd â’r Llu Awyr. Cafodd wersi hedfan cychwynnol yn Ysgol Hedfan Breifat Grahame White, ac fe gafodd drwydded i hedfan yn Nhachwedd 1915. Fe’i comisiynwyd yn swyddog yn Ionawr 1916, ac yn dilyn hyn aeth i dderbyn hyfforddiant pellach yn y Curragh, yn Iwerddon, ac yna yn  Ruislip.  Fe gymhwysodd fel peilot yn y Llu Awyr ar  21 Mai. Aeth i Ffrainc ar 25 Mai 1916. Yn Ionawr 1917, fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten. Bu farw mewn damwain awyren ar 21 Tachwedd 1918 yn Kenley pan gafwyd nam ar beiriant y Sopwith Dolphin D5298 yr oedd yn ei hedfan ar y pryd. Fe nogiodd y peiriant ar uchder o 200 troedfedd, a phlymiodd yr awyren i’r llawr. Roedd hyn ddeng niwrnod wedi’r Cadoediad. Fe’i claddwyd yn Eglwys St John’s, yn Tottington, ger Bury, Swydd Gaerhirfryn. 21 oed oedd John Horridge pan fu farw.
  • Preifat C.M. Howells, Williams Terrace, 4 Catrawd Gymreig. Bu farw Charles Morris Howells, a oedd yn gwasanaethu yn yr Aifft,  o ganlyniad i salwch, a hynny ar 1 Hydref 1915. Roedd yn 22 mlwydd oed.  Roedd yn fab i Edward ac Elizabeth Howells,  4, Williams Terrace, Llanfair Pwllgwyngyll. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent Goffa Cairo.
  • Morwr R. Hughes, Min y Ffrwd, SS Connemara. Suddwyd yr SS Connemara ar 3 Tachwedd 1916 y tu allan i Carlingford Lough, Louth, Iwerddon, yn dilyn gwrthdrawiad gyda’r llong lo y Retriever. Collwyd 97 o fywydau’r noson honno. Un ddaeth i’r lan yn ddiogel sef, James Boyle, y taniwr ar y Retriever, ac yn rhyfedd iawn, roedd yn ŵr na allai nofio. 20 oed oedd Hughes ar adeg y trychineb.
  • Stiward W.G. Hughes, White Lodge, SS Laurentic. Bu farw dau ddyn o Lanfair ar yr SS Laurentic. 41 oed oedd y Stiward Hughes. Llong deithio oedd yr SS Laurentic, a oedd yn eiddo i Gwmni’r White Star Line. Pan ddechreuodd y rhyfel fe gomisiynwyd y llong gan y llywodraeth a’i throi’n llong gludo milwyr Byddin Canada. Yn 1915 fe’i  newidiwyd hi’n llong rhyfel arfog cyflym. Ar 25 Ionawr 1917 fe darodd y Laurentic ffrwydron ger Lough Swilly yng ngogledd Iwerddon, ac fe suddodd o fewn yr awr. Llwyddodd 121 o’r 475 ar fwrdd y llong i ddianc yn ddiogel. Collwyd 354 o bobl y noson honno. Yn ogystal â’r teithwyr a’r criw, roedd y llong yn cario oddeutu 43 tunnell o aur, oedd yn werth tua £5 miliwn yr adeg honno. Buasai’r hynny heddiw gyfystyr â £250 miliwn.
  • Preifat W. Hughes, Penucheldre Terrace, 15 RWF.  21 oed oedd y Preifat Hughes pan fu farw.
  • Is-swyddog, O. Jones, Crossing Terrace, HMS Invincible. Roedd Owen Jones,  yn fab i Owen a Margaret Jones, 5, Crossing Terrace, Llanfair Pwllgwyngyll. Ei briod oedd Grace Jones, 23 Dale Street, Porthaethwy a 2 Sgwâr Mount Pleasant, Twt Hill, Carnarfon. Bu farw ar fwrdd llong yr HMS Invincible ar 31 Mai 1916, yn ystod Brwydr Jutland. Roedd yn 45 mlwydd oed. Mae Owen Jones hefyd yn cael ei gofio ar Gofeb Rhyfel Porthaethwy ar Ynys Tysilio, ac ar Gofeb Forwrol Portsmouth.
  • Preifat J.I. Jones, Gorad Goch, 1 RWF. Roedd J. I. Jones yn aelod o deulu adnabyddus Ynys Gorad Goch. Roedd yn filwr yn rhengoedd y Ffiwsilwyr Cymreig a bu farw ar 27 Chwefror 1917,yn 19 mlwydd oed. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent Queen’s, Bucquoy, i’r de o Arras.
  • Gynnwr R. H. Jones, Ffordd Deg, y Royal Garrison Artillery. Richard Humphrey Jones, oedd gŵr Mary Jane Jones, Elusendai, Aber, Bangor.  Roedd yn aelod o Adran 1af Caernarfon, o’r Royal Garrison Artillery. Ar 4 Mawrth 1915, Richard Humphrey Jones oedd y cyntaf o ddynion y pentref i’w ladd yn y Rhyfel Mawr. Roedd yn 33 mlwydd oed. Fe’i claddwyd ym Mynwent Eglwys Maes y Groes, Llanllechid.
  • Arwyddwr J. F. Lewis, Britannia Terrace,  51 Catrawd Swydd Gaer. Roedd John Francis Lewis yn fab i Mrs. Ellen Roberts, 1 Britannia Terrace, Llanfair Pwllgwyngyll. 19 mlwydd oed ydoedd pa fu farw ar 5 Mehefin 1918. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent Gymunedol Sezanne, i’r de o Reims.
  • Steward C. Ollosson, Williams Terrace, SS Laurentic. Charles Ollosson oedd yr ail o Lanfair i farw ar fwrdd yr SS Laurentic. Fe suddwyd y llong ger Lough Swilly oddiar arfordir gogleddol Iwerddon ar 25 Ionawr 1917. Collwyd 354 o fywydau’r noson honno. Yn ogystal â’r teithwyr a’r criw, roedd y llong yn cario oddeutu 43 tunnell o aur, oedd yn werth tua £5 miliwn yr adeg honno. Buasai’r hynny heddiw gyfystyr â £250 miliwn.
  • Preifat T.H. Owen, Tŷ Tŵr, 15 RWF. Roedd Thomas Hugh Owen, a oedd yn 27 mlwydd oed,  yn fab i Mary a Hugh Owen, Tŷ Tŵr,  Llanfair Pwllgwyngyll. Roedd yn aelod o’r Ffiwsilwyr Cymreig a bu farw ar Ddydd Gŵyl Dewi 1916. Y mae wedi ei gladdu Ym Mynwent Guards, Windy Corner, Cuinchy, yn y Pas de Calais.
  • Is-gorporal E. Owen, Tŷ Capel, 1 RWF. Roedd Edward Owen yn fab i Edward a Jane Owen,  Tŷ Capel, Llanfair Pwllgwyngyll. 21 oed ydoedd pan fu farw ar 3 Medi 1916, yn ystod Brwydr y Somme. Mae ei enw ar Gofeb Thiepval. Ar y gofeb hon y mae enwau’r 72,191 o ddynion nad oes cofnod o fedd iddynt. Ar y gofeb hon ceir y geiriau - ‘Here are recorded names of officers and men of the British Armies who fell on the Somme battlefields between July 1915 and March 1918 but to whom the fortune of war denied the known and honoured burial given to their comrades in death.’
  • Preifat E. Parry, Pen Rallt, 14 RWF. Edward Parry oedd mab Richard ag Ann Parry, Pen Rallt, Llanfair Pwllgwyngyll. Bu farw ar 28 Chwefror 1917 yn 28 years mlwydd oed. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent Bard Cottage, Boezinge, Gwlad Belg.
  • Is-gorporal T. Parry, Hen Siop, 16 RWF.  Thomas Parry, oedd mab John Parry, Hen Shop, Llanfair Pwllgwyngyll. 24 mlwydd oed oedd o pan fu farw ar 18 Medi 1918. Y mae enw Thomas Parry ar Gofeb Vis-en-Artois, Pays de Calais. Cofeb yw hon sy’n cofnodi enwau’r 9813 o ddynion a fu farw rhwng 8 Awst 1918 a’r Cadoediad. Nid oes cofnod o fedd swyddogol i’r dynion hyn.
  • Preifat J. Pritchard, Maesgarnedd, 10 RWF.  John Pritchard  oedd mab Owen Pritchard,  2, Penybryn Place, Bethesda.  Fe fagwyd John yng Nghartref Maesgarnedd yn Llanfair Pwllgwyngyll. Bu’n was ffarm yn Hirdrefaig, ac ymunodd â’r Fyddin ar ddechrau’r rhyfel. Enillodd y Fedal Filwrol am wrhydri eithriadol, ond bu farw ar 2 Tachwedd 1916. 19 years mlwydd oed ydoedd. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent Mendinghem yng Ngwlad Belg.
  • Is-gorporal W. J. Rowlands, Bryn Goleu, 14 RWF. Roedd William Jones Rowlands yn fab i Thomas ag Ellen Rowlands, Shop Uchaf, Llanfair Pwllgwyngyll. Bu farw ar  6 Gorffennaf 1916, yn ystod Brwydr y Somme. 23 mlwydd oed ydoedd. Y mae ei enw, a hefyd enw Edward Owen, gŵr ifanc arall o’r pentref ar Gofeb Thiepval.
  • Is-gorporal W. Weed, Plas Llanfair, 13 RWF. Roedd yr Is-gorporal William Weed, Gerddi Plas Llanfair, yn fab i William a Charlotte Weed, Hawley Lodge, Blackwater, Hampshire. Fe’i ganwyd yn  Sutton Bridge, Swydd Lincoln.  Fe ymunodd â’r Ffiwsilwyr Cymreig ym Mhorthaethwy, ac fe’i lladdwyd ar 10 Gorffennaf 1916, yn ystod Brwydr y Somme. Roedd yn 25 mlwydd oed. Fe’i claddwyd ym Mynwent Tincourt, ar y Somme. Y mae William Weed hefyd yn cael ei gofio ar Gofeb Rhyfel Sutton Bridge, sef ym mynwent Eglwys Sant Matthew, Sutton Bridge, Swydd Lincoln.
  • Gynnwr E. J. Williams, Tremarfon, Royal Field Artillery. Roedd Emyr Jones-Williams yn fab i’r Parchedig William Jones Williams, Capel Rhos y Gad, Llanfair Pwllgwyngyll. Bu’n gwasanaethu gyda’r Royal Field Artillery. Daeth trwy’r rhyfel yn holliach, ond bu farw o’r ffliw wythnos wedi’r Cadoediad. 19 years mlwydd oed ydoedd. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent  Solesmes, Cambrai, Ffrainc. Y mae ei enw hefyd ar Gofeb Ysgol Ramadeg David Hughes yn Biwmares.
  • Preifat J. Williams, Cefn Capel, 17 RWF.  Bu John Williams yn ymladd ym Mrwydr y Coed, neu Frwydr Mametz, yn y cyfnod 7-12 Gorffennaf 1916. Yn fuan wedi hyn, cafwyd adroddiad ei fod ar goll. Flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd cadarnhad ei fod wedi ei ladd. Roedd yn 26 mlwydd oed pan fu farw.

 

Plwyf Llanedwen

  • Gynnwr W.C. Davies, Plas Newydd. Gwasanaethodd gyda’r Royal Garrison Artillery. Roedd yn 29 mlwydd oed pan fu farw yn Chwefror 1918.
  • Preifat L. H. Williams, Tyddyn Pwyth, 14 RWF. Lewis Hugh Williams oedd mab Griffith R. Williams, Tyddyn Pwyth. Fe’i hanafwyd yn ddifrifol o ganlyniad i effeithiau nwy gwenwynig ar y Ffrynt Orllewinol ac oherwydd hyn treuliodd rhai blynyddoedd yn glaf yn Ysbyty’r Fonesig Thomas yng Nghaergybi. Bu farw o’i anafiadau ar 12 Chwefror 1921, yn 24 mlwydd oed. Y mae wedi ei gladdu ym Mynwent Eglwys y Santes Fair yn Llanfair Pwllgwyngyll.

 

Plwyf  Penmynydd

  • Preifat R. M. Jones, Tal y Bont, o Gatrawd y King’s Own Scottish Borderers.  28 mlwydd oed ydoedd pan fu farw.
  • Preifat A. Lloyd, Tŷ Mawr,  14 RWF.  Roedd yn 33 mlwydd oed pan fu farw yn Hydref 1918. Y mae wedi ei gladdu yn Beaulencourt, Ligny Thilloy -  pentref i’r de-orllewin o Arras.
  • Preifat M. Rowlands, Pen Wal, 17 RWF. Roedd Messach Rowlands yn fab i Daniel Rowlands, Pen Wal, Penmynydd. Messach oedd yr ifancaf o’r bechgyn lleol a laddwyd yn y Rhyfel Mawr.  17 mlwydd oed ydoedd pan fu farw ar  20 Ionawr 1916. Roedd hyn chwe wythnos wedi iddo gyrraedd Ffrainc. Ar y pryd roedd yn croesi Tir-Neb, yng nghwmni ei ddau frawd, Edward a John. Y mae Messach wedi ei gladdu ym Mynwent Merville, i’r de-orllewin o Armentieres. Y mae hefyd wedi ei gofio yn Eglwys Penmynydd.
  • Preifat D. Williams, Tan y Bryn,  1 RWF. David Williams  oedd mab Owen ac Elizabeth Williams, Penmynydd. 22 mlwydd oed ydoedd pan fu farw ar 29 Tachwedd 1918, ychydig wythnosau wedi arwyddo’r Cadoediad. Fe’i claddwyd ym Mynwent Scrivia, yn Piedmont, yr Eidal.
  • Preifat E. Williams, Elusendai. Aelod o’r 16 RWF. Roedd yn 23 mlwydd oed pan fu farw.