Theatr a neuadd farchnad y Metropole, Abertyleri
Roedd hwn yn un o’r adeiladau mwyaf yng Nghymoedd y Gorllewin pan agorodd ym 1867 fel neuadd farchnad a theatr. Fe’i hadeiladwyd ar safle neuadd farchnad gyntaf y dref gan Alfred Prosser Williams. Ef oedd yn gyfrifol am lawer o adeiladau tirnod cyfarwydd yr ardal.
Roedd y neuadd farchnad newydd, a hithau’n fwy na’r hen un, yn ddigon mawr i fwy na 1,200 o bobl ddod i gyngherddau a digwyddiadau eraill yma. Byddai rhai o’r gwylwyr yn gwylio o’r balconïau, a oedd yn cael eu defnyddio yn ystod oriau’r farchnad ar gyfer stondinau yn gwerthu cynnyrch llaeth a dofednod. Mae’r balconïau gwreiddiol a’r colofnau o haearn bwrw a oedd yn cynnal y to’n dal yn weladwy.
Cafodd yr adeilad ei ailenwi’n Dŷ Opera a Theatr y Metropole ym 1900. Un o’r perfformwyr cynnar yma oedd Arthur Stanley Jefferson, un hanner deuawd comedi’r Barto Brothers. Yn ddiweddarach daeth yn enwog yn rhyngwladol fel Stan Laurel, o’r deuawd Laurel and Hardy, ym mlynyddoedd cynnar ffilmiau Americanaidd.
Byddai glowyr yn defnyddio’r neuadd ar gyfer cyfarfodydd torfol yn ystod anghydfodau. Ym 1910 fe basiodd gweithwyr o lofeydd Cwmtyleri a Rose Heyworth benderfyniad yma a oedd yn mynnu bod y rheolwyr yn cydnabod meddygon y gweithwyr eu hunain yn unig ac yn cytuno na fyddid yn mynd ag unrhyw wŷr a oedd yn cael eu hanafu yn y gwaith i feddygfeydd eraill i gael triniaeth. Roedd yn beth cyffredin i weithwyr diwydiannol amau efallai na fyddai meddygon a ddewisid gan berchnogion neu reolwyr yn annibynnol, er enghraifft pan fyddai meddygon yn rhoi tystiolaeth mewn cwestau i farwolaethau gweithwyr.
Roedd llawr sglefrio yn y neuadd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddai pobl a oedd yn dilyn y ffasiwn troed-rolio ar y pryd yn chwyrlïo o gwmpas i gyfeiliant cerddorfa fyw!
Roedd ffilmiau’n cael eu dangos yma yn y 1920au ac yn ddiweddarach. Trosglwyddwyd yr adeilad i berchnogaeth gyhoeddus ym 1961 ac, fel Y Met, mae’n dal i fod yn ganolfan ar gyfer digwyddiadau cymunedol (gweler y ddolen isod). Cafodd yr adeilad ei adnewyddu’n helaeth rhwng 1999 a 2006.
Yn 2001 fe symudodd Amgueddfa Abertyleri a’r Cylch i’r llawr gwaelod. Mae ei harddangosion yn cwmpasu nifer o bynciau, gan gynnwys hanes lleol o’r oes ddiwydiannol ac o gyfnod y rhyfel. Dilynwch y ddolen isod ar gyfer gwybodaeth i ymwelwyr.
Yn 2022 gosodwyd plac porffor ar yr adeilad i goffau’r nyrs Thora Silverthorne.
Gyda diolch i Graham Bennett, ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Cod post: NP13 1AH Map
Gwefan Y Met
Gwefan Amgueddfa Abertyleri a'r Ardal
Mwy o hanes y Metropole ar wefan Graham Bennett
![]() |