Fferm y brodyr Morris, Pentre Eirianell

Fferm y brodyr Morris, Pentre Eirianell

Yn ardal aber yr Afon Goch, mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio fferm Pentre Eirianell. Yn y 18fed ganrif, bu’r brodyr Morris rhyfeddol yn bywyma. Fe gyfranon nhw yn helaeth at ddiwylliant Cymreig – yn Llundain ac yng Nghymru – ac mae eu cannoedd o lythyrau at ei gilydd yn gofnod hanesyddol gwerthfawr.

Ganed y cyntaf o'r brodyr, Lewis Morris, yn 1701, chwe blynedd cyn i’w dad, Morris ap Rhisiart, symud i Bentre Eirianell o fferm arall ar Ynys Môn. Roedd Morris yn gowper yn ogystal â ffermwr, a bu farw yn 1763.

Cafodd Lewis nifer o swyddi swyddogol. Cynhyrchodd gynlluniau o borthladdoedd Cymru ar gyfer y Morlys. Fe ddaeth yn ddirprwy stiward tiroedd y Goron yn Sir Aberteifi, mewn cyfnod pan yr oedd llawer o dirfeddianwyr yn gwrthwynebu hawl y Goron i gyfoeth mwynau yr ardal. Er gwaethaf heriau’r swydd, roedd gan Lewis ddigon o egni i hyrwyddo gwaith beirdd ac awduron talentog, yn ogystal ag ysgrifennu ei gerddi ei hun. Roedd yn credu nad oedd digon o lyfrau ar gael yn y Gymraeg, a sefydlodd wasg argraffu ar Ynys Môn i gywiro hyn. Yr oedd hefyd yn fotanegydd a llysieuydd. Bu farw yn 1765 ac fe’i gladdwyd yn Llanbadarn-fawr, ger Aberystwyth.

Symudodd Richard Morris (1703-1779) i Lundain yn ddyn ifanc a bu'n gweithio fel clerc. Yn 1751 sefydlodd Gymdeithas y Cymmrodorion, gyda chymorth Lewis. Eu gobaith oedd creu sefydliad tebyg i’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Cymry Llundain. Roedd y gymdeithas yn boblogaidd ymhlith Cymry Llundain – ond yn fwy ar gyfer cymdeithasu na'r gweithgareddau ysgolheigaidd a oedd gan Richard a Lewis mewn golwg!

Trigai William Morris (1705-1763) gydol ei oes ar Ynys Môn. Yn 1737 penodwyd ef yn gasglwr tollau ym mhorthladd prysur Caergybi, lle y bu fyw hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn gerddor, gôr-feistr Eglwys Sant Cybi a chyfansoddwr emynau. Yr oedd hefyd yn fotanegydd, ac fe’i ymgynghorwyd ar faterion meddygol, cyfreithiol a busnes.

Daeth y pedwerydd brawd, John, yn swyddog llynges. Cafodd ei ladd, yn 34 oed, tra'n gwasanaethu fel Swyddog Cyntaf HMS Torbay yn 1740.

Mae cofeb i'r brodyr Morris – croes Geltaidd a godwyd yn 1910 – yn sefyll mewn cae wrth ochr yr A5025, 300 metr i'r de o'r fferm.

Cod post: LL70 9EX

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button