Mythau Castell Pennard, Gŵyr

Gower-AONB-Full button-theme-irish-welsh

Mythau Castell Pennard, Gŵyr

Mae adfeilion Castell Pennard wedi denu mwy na'u cyfran deg o fythau dros y canrifoedd! Roedd y castell ei hun yn anffortunus. Yn fuan, nid oedd modd ei ddefnyddio oherwydd chwythwyd symiau mawr o dywod i mewn iddo ac o'i amgylch gan dywydd eithriadol o stormus yn y 13eg a'r 14eg ganrif. Gweler ein tudalen am y castell am ragor o'i hanes.

Old painting of Pennard Castle

Yn ôl rhai chwedlau, ymffurfiodd y castell drwy hud ar y clogwyni mewn un noson.

Dywedir i'r castell gael ei ddinistrio mewn un noson hefyd gan fod arglwydd y castell wedi ymateb mewn ffordd annymunol i'r tylwyth teg a oedd yn cael hwyl o fewn y muriau. Melltithiwyd y castell gan y tylwyth teg, ac ymosodwyd arno'n gyflym gan dywod. Ar yr un noson, aethpwyd â'r holl dywod o draethau Iwerddon.

Mae cysylltiadau eraill â llên gwerin Iwerddon. Mae gan y cyhyraeth Gwyddelig gymeriad cywerth yma ar ffurf gwrach sydd ond yn ymddangos – ar ffurf debyg i frân – i deuluoedd sydd ar fin colli anwylyn.

Os ydych chi'n berson ofergoelus, mae'n debyg na fyddwch chi am dreulio noson yn y castell. Dywedir bod y wrach yn neidio ar unrhyw un sy'n meiddio cysgu ger yr adeiledd yn y nos, er bod rhai fersiynau o'r stori'n dweud bod y wrach yn digio dim ond os yw'r person sy'n cysgu yn dod o un o hen deuluoedd Gŵyr.

Hen gred arall oedd y byddai unrhyw un a fentrai gysgu o fewn yr adfeilion yn marw'r noson honno, yn mynd yn wallgof neu'n deffro fel bardd.

Dywedir bod sŵn menyw sy'n wylo'n cael ei glywed weithiau yn y castell. Dywed rhai mythau fod ysbryd priodferch drasig yn aflonyddu ar y castell ac eraill mai'r wrach yw'r forwyn sy'n wylo, ar wedd arall.

Gyda diolch i Glwb Golff Pennard, Helen Nicholas o Gower Unearthed, Cymdeithas Gŵyr, ac i Bartneriaeth AoHNE Gŵyr, dan arweiniad Cyngor Abertawe gyda chefnogaeth ac chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru

Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Map