Gorsaf bad achub Ceinewydd

Gorsaf bad achub Ceinewydd

new_quay_lifeboat_william_cantrell_ashley

Agorodd gorsaf bad achub gyntaf Ceinewydd yn 1864. Costiodd £130 i’w hadeiladu. Yn ystod y degawd blaenorol, bu o leiaf ddeg llongddrylliad. Ar un noson yn 1859 collwyd chwech o gychod ger Ceinewydd. Gweler ein tudalen am bier Ceinewydd am lun o un o’r badau achub cynharaf yn cael ei lusgo i’r lan. 

Yn 1903 codwyd cartref i’r cwch ynghyd â llithrfa ar safle newydd am £1,235. Cyflwynwyd hen gartref y cwch i Gomisynwyr yr Harbwr. Mae cyfleusterau cyhoeddus yno erbyn hyn. 

Yn 1948 daeth gyrfa’r bad achub William Cantrell Ashley i ben wedi un a deugain o flynyddoedd o wasanaeth. Hwn oedd bad achub hwylio olaf y RNLI , gweler y llun uchod (gyda chaniatâd yr RNLI) . Addaswyd yr orsaf y flwyddyn honno ar gyfer y bad achub newydd, St Albans, ac adeiladwyd cwt ar gyfer tractor. Mae’r llun isod (gyda chaniatâd yr RNLI ) yn dangos y St Albans yn cael ei llusgo i fyny’r llithrfa c.1950au.

new_quay_lifeboat_st_albans_1950s

Yn 1966 cyflwynwyd medalau efydd i’r llywiwr David Winston Evans, y peiriannydd Evan Fowler ac aelod o’r criw, David Rees, am fynd i gynorthwyo tri bachgen a ddaliwyd gan y llanw yn Gilfach-yr-Halen. Gwelwyd un bachgen yng ngolau’r bad achub yn sefyll ar silff o graig . Nofiodd Evan Fowler a David Rees trwy’r môr garw ac achub y bachgen gyda bwi achub. Achubwyd bachgen arall ond bu ef farw yn ddiweddarach. Cafodd y criw hyd i gorff y trydydd bachgen yn ogystal. 

Ychwanegiad at y bad achub pob-tywydd oedd y bad achub dosbarth-D a’r orsaf achub wrth y lan yn 1967.

Yn 1992 cwblhawyd cartref newydd i’r bad achub, ar yr hen safle. Roedd hwnnw ar gyfer y bad achub dosbarth-Mersey newydd ynghyd â bad achub dosbarth-D; roedd yn gynnig, yn ogystal, well cyfleusterau. Disodlodd y bad newydd ON-1172 Frank and Lena Clifford of Stourbridge y bad dosbarth-Oakley Bird’s Eye, mae hwnnw i’w weld nawr ym Moelfre, Sir Fôn.

Ym mis Medi 2012 derbyniodd yr orsaf fad achub dosbarth-D newydd, D-754 Audrey LJ. Enwyd y bad ar ôl Audrey Lawson-Johnson a oedd eisoes wedi talu am un bad achub ar gyfer Ceinewydd. Bu hi farw yn Ionawr 2011, hi oedd y person olaf i oroesi suddo’r RMS Lusitania yn 1915. 

Nid yw gwasanaeth y bad achub yn y Deyrnas Gyfunol yn cael ei gynnal gan y llywodraeth ond, yn hytrach, gan yr RNLI, elusen sydd yn ddibynnol ar gyfraniadau o du’r cyhoedd. Er ei sefydlu yn 1824, amcangyfrifir bod yr RNLI wedi achub tua 140,000 o fywydau. Mae’n cyflogi rhai o’r criw ond mae’r mwyafrif, 40,000 i gyd, yn wirfoddolwyr a fydd yn gadael eu gwaith, eu teuluoedd neu eu gwelyau pryd bynnag y bydd galw am eu bad achub nhw.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA45 9PS Map

Gwefan yr RNLI

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button