Siop teulu Elena Puw Morgan, Corwen

button-theme-womenSiop teulu Elena Puw Morgan, Stryd y Bont

Roedd gŵr y nofelydd Elena Puw Morgan (1900-1973) yn cadw siop teiliwr yn yr adeilad hwn, sydd bellach yn gartref i Caffi Treferwyn. Mae'r adeilad bellach yn perthyn i deulu’r canwr Trebor Edwards.

Roedd busnes Morgan & Davies yn gwerthu dillad ar y llawr gwaelod a wnaed gan teilwriaid yn yr ystafelloedd uwchben y siop. Yn 1919 hysbysebodd y busnes am deilwriaid profiadol a "Lady Skirt Hands". Mae'n debyg y byddai’r perchennog, John Morgan, yn cael ei gynorthwyo yn achlysurol yn y siop gan ei wraig Elena.

Portrait of novelist Elena Puw MorganHi oedd y ddynes gyntaf i ennill medal ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol – am ei nofel Y Graith yn 1938 (Eisteddfod Caerdydd). Addaswyd y llyfr yn ddiweddarach ar gyfer y teledu. Mae ei hysgrifennu yn aml yn adlewyrchu ei phrofiadau o fywyd cefn gwlad a'i dealltwriaeth o fywydau teuluoedd Romani.

Efallai ei chyfraniad mwyaf i lenyddiaeth Gymraeg oedd ei hysgrifennu ar gyfer plant yn y degawdau rhwng y ddau ryfel byd, pan oedd prinder deunydd darllen deniadol yn y Gymraeg i blant. Bu ei gwaith yn y cylchgrawn Cymru'r Plant a’i straeon eraill yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr Cymraeg.

Bu'n byw yng Nghorwen trwy gydol ei bywyd. I ddechrau roedd yn byw gyda'i rhieni, Lewis a Kate Davies, yng nghartref ei phlentyndod, sef tŷ o’r enw Islwyn. Roedd Lewis yn weinidog yng nghapel Annibynnol Corwen. Ar ôl ei phriodas, roedd Elena’n byw yn Annedd Wen. Mae'r ddau dŷ yn agos at Caffi Treferwyn.

Ganed Trebor Edwards yn 1939. Mae'n byw ar fferm y teulu ym Metws Gwerful Goch, ger Corwen. Mae ei ddatganiadau o faledi a chaneuon traddodiadol Cymreig wedi diddanu sawl cenhedlaeth. Ers iddo ddechrau recordio yn y 1970au, mae wedi gwerthu mwy na 250,000 o albymau – camp sylweddol i artist Cymraeg.

Gyda diolch i Angharad Puw Davies

Côd post: LL21 0AB    Map