Hen Neuadd y Dref, Pwllheli
Hen Neuadd y Dref, Pwllheli
Cafodd Neuadd y Dref (a elwid yn Guildhall) ei chofnodi ar y safle yma ym 1731. Ail-adeiladwyd yr adeilad tua 1820 gyda lle i Gyngor y Dref ar y llawr cyntaf a neuadd farchnad islaw. Roedd carchar yn y seler, ac mae'r celloedd yn parhau. Ychwanegwyd tŵr y cloc yn ddiweddarach yn y ganrif.
Roedd yr adeilad yn fan i gynnal cyngherddau, cyfarfodydd ocsiwn a digwyddiadau eraill. Cafodd cyfarfod a gynhaliwyd yma yn Chwefror 1876 ei dorri'n fyr a ôl ymateb terfysglyd gan rai o'r gynulleidfa. Roedd y cyfarfod wedi cael ei gynnull i amlygu cefnogaeth i'r "Eglwys a'r Wladwriaeth." Roedd Y Parchg. Ellis Osborne Williams, ficer Pwllheli, ymysg y clerigwyr a siaradodd o blaid y Sefydliad (y berthynas rhwng Eglwys Loegr a'r frenhiniaeth). Roedd y siaradwyr yn fynych yn cael eu haflonyddu a chyn hir roedd rhai o'r gynulleidfa ar y llwyfan "drwy ystorm". Adroddodd y wasg fod yno ymladd a chadeiriau'n cael eu taflu, a thrwy gryn anhawster y llwyddodd "y boneddigesau i fynd oddi yno'n ddiogel".
Cafodd y clerigwyr Anglicanaidd eu tywys o'r Neuadd. Wedyn cynigwyd gan ddau weinidog Anghydffurfiol o blaid dadgorffori'r eglwys, a chafwyd cytundeb brwd i hynny. Bu'n rhaid aros hyd 1920 i'r Eglwys yng Nghymru gael ei dadgorffori.
Yn y 1890au, rhoddodd y Parchg. John Owen, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, gyfres o ddarlithoedd ar amaethyddiaeth yn Neuadd y Dref. Galluogodd hyn amaethwyr Penrhyn Llŷn i ddysgu am ddulliau a datblygiadau amaethyddol.
Yng ngwanwyn 1902, symudodd y Cyngor Tref i'r Neuadd y Dref newydd a gai ei hadnabod fel Neuadd Dwyfor, dim ond ychydig ddrysau i ffwrdd. Yn Nhachwedd 1902, rhoddodd y Cyngor yr adeilad ar werth. Cafodd ei brynu gan Glwb Rhyddfrydwyr Pwllheli.
Heddiw mae Hen Neuadd y Dref yn gartref unwaith eto i Gyngor y Dref.
Diolch i’r Parch Ioan W Gruffydd am y cyfieithiad
Cod post: LL53 5DH Map
![]() |
![]() ![]() |