Oriel Davies, Y Drenewydd

PWMP logobutton-theme-womenOriel Davies, Y Drenewydd

newtown_margaret_davies

Enwyd yr oriel gelf hon ar ôl y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies, casglwyr celf a helpodd filoedd o ffoaduriaid o Wlad Belg yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Codwyd yr adeilad fel oriel a chanolfan gymunedol ym 1967 gyda chymynrodd gan y chwiorydd. Fe'i dyluniwyd gan Alex Gordon (1917-1999), arloeswr pensaernïaeth ynni isel, cynaliadwy.

Cafodd ei hailenwi yn Oriel Davies yn 2003, yn dilyn cam cyntaf gwaith uwchraddio a gostiodd £1.7miliwn. Wedi cwblhau'r gwaith yn 2004 roedd yno fannau arddangos ac addysg ehangach mewn adeilad modernaidd. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion arddangosfeydd, cyfleusterau ac amseroedd agor.

Gwendoline (1882-1951) a Margaret (1884-1963) oedd wyresau'r diwydiannwr Fictoraidd, David Davies. Fe'u magwyd ym Mhlas Dinam, Llandinam, a daethant yn brif gasglwyr celfyddyd gain Cymru. Fe’u gwelir yn y llun hwn trwy garedigrwydd Oriel Davies, gyda Margaret ar y dde.

Yn fuan ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym 1914, dechreuodd y chwiorydd a'u brawd David (yr Arglwydd David Davies yn ddiweddarach) helpu ffoaduriaid o’r rhan honno o Wlad Belg oedd wedi’i meddiannu gan yr Almaen i symud i Gymru. Amcangyfrifir eu bod wedi helpu 4,000 o ffoaduriaid i ddod o hyd i loches. Fe wnaethon nhw hefyd chwilio am artistiaid ymysg y ffoaduriaid, gan anfon nifer i drefi Cymru. Roeddent yn gobeithio y byddai'r ffoaduriaid yn ysgogi datblygiad artistig Cymru trwy addysgu ac ysbrydoli ei myfyrwyr.

Symudodd rhai ffoaduriaid o Wlad Belg i'r Drenewydd. Cyrhaeddon nhw ym mis Rhagfyr 1914 ac fe'u cartrefwyd mewn fila oedd yn dŷ pâr oedd yn eiddo i Hugh Lewis, cadeirydd Cyngor Sir Trefaldwyn.

newtown_gwendoline_davies

Bu’r chwiorydd Davies, oedd yn rhugl mewn Ffrangeg, yn helpu mewn ffreutur oedd yn cael ei chynnal gan Groes Goch Ffrainc. Weithiau byddai Gwendoline yn gadael yr ardal ger Ffrynt y Gorllewin i ymweld â Pharis, lle prynodd baentiadau gan Cézanne.

Yn yr 1920au roedd y chwiorydd a'u brawd, a oedd wedi gwasanaethu yn y fyddin, yn ymgyrchwyr blaenllaw dros heddwch. Prynodd y chwiorydd Blas Gregynog ym 1920 a'i ddatblygu fel canolfan ar gyfer cerddoriaeth a chynadleddau. Cynhyrchodd eu Gwasg Gregynog lyfrau argraffiad cyfyngedig.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wnaethant drosglwyddo Gregynog i'w ddefnyddio fel cartref i bobl o'r gwasanaethau arfog a'r gwasanaethau brys domestig ddod i wella. Lladdwyd eu nai, David, yn brwydro yn y rhyfel. Ar ôl y rhyfel, croesawodd y chwiorydd blant o'r Iseldiroedd a oedd wedi dioddef dan feddiannaeth yr Almaen.

Gadawodd y chwiorydd 260 o weithiau celf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Cod post: SY16 2NZ     Map

Gwefan Oriel Davies

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua'r gogledd ar hyd Lôn Gefn i'r man lle mae'n troi i'r dde. Mae cyn Bencadlys y fyddin ar y gornel ger allanfa’r maes parcio exit
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button