Gwarchodfa natur Oxwich

Gwarchodfa natur Oxwich

Mae'r warchodfa hon yn cynnwys nifer o wahanol fathau o gynefinoedd mewn ardal gymharol gryno. Ceir yma dwyni tywod, morfa heli, llynnoedd dŵr croyw a chlogwyni calchfaen. O ganlyniad i’r fath amrywiaeth, y mae 600 o rywogaethau o blanhigion wedi eu cofnodi ar y warchodfa, gan gynnwys llwyfen, caldrist drewllyd, crwynllys Cymreig a cherddinen y graig. Ynn a derw sy’n dominyddu'r coetiroedd ar y llethrau calchfaen. Mae tegeirianau’n blodeuo yn y llaciau twyni yn y gwanwyn a'r haf cynnar.

Ymhlith yr adar i’w gweld y mae telor Cetti, telor cyrs a hesg telor. Mae Aderyn y Bwn, aderyn swil, wedi dychwelyd i Oxwich ar ôl absenoldeb hir. Yn y gaeaf, mae corhwyaid a hwyaden lwyd yn ymweld. Mae’r pryfed prin yma yn cynnwys Cepero’s groundhopper (yn debyg i ceiliog rhedyn), gwas y neidr blewog a'r chwilen “beachcomber" Nebria complanata, sy'n bwydd ar hyd y marc llanw uchel.

Mae'r ardal wedi ei dynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac fe’i rheolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl Yr Athro Hywel Wyn Owen, enw o’r Hen Saesneg ydi Oxwich, yn golygu fferm a oedd yn arbenigo mewn magu ychen. Cofnodwyd yr enw’n gyntaf ym 1176. Cymharer ag Oxwick yn Norfolk.

Gyda diolch i’r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Map

Gwarchodfa Oxwich ar wefan CNC

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button