Gwesty Brenhines Rwmania, Llandudno

button-theme-women Button link to kids version of pageGwesty Brenhines Rwmania, Gwesty’r Marine, Llandudno

Treuliodd y Frenhines Elisabeth o Rwmania bum wythnos yn 1890 yng Ngwesty'r Adelphi, Llandudno, sydd bellach yn Westy'r Marine. Yn ferch i deulu brenhinol Ewropeaidd, priododd y Brenin Carol o Rwmania. Gofynnodd i'r Tywysog Gyhka, diplomydd o Rwmania yn Llundain, i ddod o hyd i fan anghysbell ar gyfer gwella a myfyrio. Ymgynghorodd y Tywysog Gyhka â Thywysog Cymru, a oedd wedi ymweld â Llandudno yn 1867 ac 1880 a darparu ei salŵn rheilffordd personol, wedi'i glustogi mewn sidan, i ddod â'r Frenhines Elisabeth i Landudno.

photo_of_carmen_sylvaRoedd hi wedi'i chythruddo wrth gael ei hun mewn cyrchfan wyliau brysur, ond y bore canlynol ymwelodd yr Arglwydd a'r Arglwyddes Mostyn â hi yn y gwesty ac aeth i'w cartref am de y prynhawn hwnnw. Ymhen ychydig ddyddiau ymwelodd ag Eisteddfod Genedlaethol Bangor a derbyniwyd hi i Orsedd y Beirdd fel Carmen Sylva, yr enw a ddefnyddiai ar gyfer ei nofelau, cerddi ac ysgrifau mewn pedair iaith. Cyflwynodd gadair yr Eisteddfod i'r bard Thomas Tudno Jones o Landudno.

Teithiodd ar draws Gogledd Cymru a chafodd ei diddanu gan uchelwyr Castell Penrhyn (Bangor), Baron Hill (Biwmares), a Mostyn Hall (Mostyn, Sir y Fflint). Mynychodd gyngherddau ym Mhafiliwn Pier Llandudno ac addolodd yn eglwys Llanrhos.

Derbyniodd Mr Codman orchymyn i roi perfformiad Punch a Judy gyferbyn â'i gwesty. Yn aml byddai hi’n mynd ar deithiau cwch yn y bae. Byddai’r cwchwr William Lloyd Jones yn ei chario dros y graean. Gyda chaniatâd brenhinol, fe ailenwyd ei gwch yn Carmen Sylva ac am weddill ei oes cafodd ei adnabod fel “y cychwr brenhinol”!

Roedd ei nawdd i fasnachwyr Llandudno yn dal i gael ei gofnodi fwy na 75 mlynedd yn ddiweddarach ar ffurf arfbeisiau brenhinol. Cafodd Carmen Sylva Road, Roumania Crescent a Roumania Drive eu henwi er anrhydedd iddi.

Cyn iddi adael, gorymdeithiodd plant y dref heibio ei gwesty. Cafwyd cyngerdd ffarwelio ym Mhafiliwn y Pier a thrannoeth rhoddodd Comisiynwyr y Dref ffarwel swyddogol iddi. Wrth iddi adael am 8yh am y trên nos i Lundain, taniwyd 21 o ffrwydron bad achub ar y Gogarth.

Bu hi farw yn 1916. Yn ei geiriau olaf i’r Comisiynwyr, disgrifiodd Gymru fel “a beautiful haven of peace”. Yn ddiweddarach cyfieithwyd hwn i’r Gymraeg fel “Hardd, Hafan, Hedd” a ddaeth yn arwyddair swyddogol Llandudno.

Yng nghyntedd Gwesty’r Marine gellid gweld ei llythyr o ddiolch i Westy’r Adelphi a llun ohoni.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn Bay

Cod post: LL30 1AN    Map

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button