Gorsaf Raven Square, y Trallwng

PWMP logo sign-out

Gorsaf Raven Square, y Trallwng

Bu hon yn orsaf derfynol i Reilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair (WLLR) er 1981. Gwirfoddolwyr yn bennaf sy’n rhedeg y rheilffordd ac mae’n cynnig teithiau ar y trên stêm ar hyd Dyffryn Banw i orsaf derfynol Llanfair Caereinion.

Agorwyd y rheilffordd ym mis Mawrth 1903 i wasanaethu cymunedau amaethyddol, yn benodol i gludo da byw. Roedd y trenau o Lanfair Caereinion yn mynd ymlaen heibio Arhosfa Raven Square i orsaf a chilffordd nwyddau ger gorsaf Rheilffyrdd y Cambrian yn y Trallwng. I ymlwybro drwy strydoedd cefn y dref, ail-ddefnyddiai’r rheilffordd lwybr tramffordd geffylau a oedd, rhwng oddeutu 1818 a’r 1850au, wedi cario cerrig o chwarel ger Brook Street i Gamlas Trefaldwyn.

Adeiladwyd a rhedwyd y WLLR gan gwmni Rheilffyrdd y Cambrian ond roedd yn gwmni annibynnol bryd hynny nes iddo ef a Rheilffyrdd y Cambrian gael eu hamsugno i gwmni’r Great Western Railway (GWR) yn 1923, fel rhan o’r broses o gyfuno rheilffyrdd Prydain i’w moderneiddio ar ôl y galw mawr adeg y rhyfel.

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar y WLLR, a chafodd dros £2,650 mewn iawndal yn 1922 am y colledion a gafwyd tra bo’r rheilffordd dan reolaeth y llywodraeth adeg y rhyfel. Roedd y rheilffordd wedi dechrau gwneud elw erbyn 1912, yn rhannol oherwydd bod y costau rhedeg wedi gostwng. Cododd cyflogau yn ystod y rhyfel a chafwyd gwared ar y trenau teithwyr gyda’r nos.

Cafodd William Pritchard, yr oedd ei dad yn un o gards trenau cyntaf y WLLR, ei ladd ym Mrwydr y Somme ym mis Medi 1916, yn 24 oed.

Fe wnaeth GWR gael gwared ar y trenau teithwyr a oedd yn weddill yn 1931, yn rhannol oherwydd ei fod yn rhedeg gwasanaeth bws tebyg. Cynhaliwyd y gwasanaeth nwyddau a chafodd hwb yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth i Brydain ddod i ddibynnu fwyfwy ar fwyd cartref ac oherwydd prinder petrol i lorïau. Daeth y rheilffordd yn rhan o’r Rheilffyrdd Prydeinig ar ôl y rhyfel ac fe’i caewyd yn 1956.

Ail-agorwyd y lein gan wirfoddolwyr brwd yn 1963, ychydig cyn i’r trac drwy’r dref gael ei dynnu er mwyn gwella’r ffordd. Roedd trenau stêm yn rhedeg o Lanfair Caereinion i Gastell Caereinion ac yn ddiweddarach i Sylfaen, tra paratowyd y trac a’r orsaf newydd yn Raven Square.

Cod post: SY21 7LT    Map
 

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gadewch yr orsaf drenau a cherdded ar draws y maes parcio i’r Raven Inn
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button