Tŷ Coch, Talgarth

PWMP logoTŷ Coch, Talgarth

talgarth_red_house

Am ddegawdau lawer, siop oedd yr adeilad hwn sydd bellach yn gartref preifat – cofiwch barchu preifatrwydd y deiliaid.

Ar un adeg, Tŷ Coch oedd cyfeiriad Samuel Prosser a fu, ym 1828, yn un o sefydlwyr Cronfa ar gyfer Erlyn Ffeloniaid yn ardal Talgarth. Ynghyd â thanysgrifwyr eraill talodd i gronfa a gynigiai wobrwyon am wybodaeth am ladron oedd wedi dwyn ceffylau neu ddefaid.

Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, eiddo’r ffotograffydd a fframiwr lluniau W. Cartwright oedd Tŷ Coch. Gwerthai gardiau post lliw lleol am geiniog yr un. Bae ar y llawr gwaelod (gweler y llun) a ffurfiai ffenestri a phrif fynedfa’r siop. Arweiniai’r drws ar y chwith i ystafell arddangos teganau ac anrhegion.

Yn nes ymlaen, roedd y llawr uchaf yn gartref i John Charles Powell, ei wraig Mary Jeanie a’u dwy ferch ifanc. Hanai o’r Gelli Gandryll a gweithiai i’r dilledydd lleol, H J Stephens am 15 mlynedd. Erbyn gwanwyn 1914, roedd wedi symud gyda’i deulu i Dalgarth i reoli cangen newydd siop Mr Stephens ar y Stryd Fawr a agorodd ar 31 Mawrth. Roedd Mr Powell yn adnabyddus yn y ddwy dref drwy ei waith a’i bregethu mewn eglwysi rhydd.

Yn 1916, daeth yn Breifat gyda Chyffinwyr De Cymru. Tra oedd ar ei seibiant o hyfforddi yn Sir Benfro, cynhaliodd wasanaeth yn Eglwys y Bedyddwyr Talgarth wedi’i wisgo mewn lliw caci! Ar ôl cymryd rhan mewn ‘brwydro ffyrnig’ yng ngwanwyn 1917, fe ymadferodd mewn ysbyty glan môr yn ne Ffrainc gan gwblhau ei adferiad gartref. Pregethodd yn Eglwys yr Annibynwyr toc cyn gadael Talgarth am y tro olaf ym mis Medi 1917.

Fe’i saethwyd yn ardal y Somme yn Ffrainc a’i ddwyn i ysbyty milwrol yn Abbeville lle bu farw ar 8 Rhagfyr 1917. Roedd yn 38 oed. Cynhaliwyd gwasanaeth er cof amdano yn Eglwys y Bedyddwyr y Gelli ym mis Chwefror 1918.

Ar wahanol adegau yn nes ymlaen yn yr 20fed ganrif, bu Tŷ Coch yn siop groser, siop bysgod, caffi ac yn fanc. Roedd yn siop gwerthu pob dim gan gynnwys nwyddau haearn a thrydanol a bwyd anifeiliaid anwes o’r 1980au tan 2007 pan drowyd yr adeilad yn dŷ.

Gyda diolch i Mike Skyrme

Cod post: LD3 0AB    Map

Talgarth war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button