Safle castell cyntaf Rhuddlan

Safle castell cyntaf Rhuddlan

I’r de o gastell Rhuddlan y mae Twthill, tarren ger yr afon lle y safai castell mewn cyfnod cynharach.

Credir i blasdy ar Twthill, eiddo i uchelwyr o Gymry, gael ei ddinistrio gan dân yn 1063, pan ymosododd lluoedd Harold Godwinson ar y llywodraethwr Cymraeg, Gruffydd ap Llywelyn. Yn ddiweddarach daeth Harold yn frenin Lloegr ond lladdwyd ef yn 1066 pan enillodd y goresgynwyr o Normaniaid frwydr Hastings.  Yn sgil hynny daeth  Robert o Rhuddlan yn arglwydd dros lawer o Ogledd Cymru - a’i ganolfan oedd y castell mwnt a beili a gododd ef ar Twthill yn 1073.

Engraving of Rhuddlan castle and bridgeTreuliodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint noson yn y castell yn 1188 pan oedden nhw’n teithio o amgylch Cymru yn pregethu ac yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Yn ei ddyddiadur o’r daith mae Gerallt yn nodi bod y castell yn adeilad ardderchog. Dafydd, un o feibion Owain Gwynedd (brenin Gwynedd) a fu’n difyrru’r gwesteion. Roedd Dafydd a’i frawd Rhodri wedi lladd eu hanner brawd Hywel ym Mhentraeth, Ynys Môn, yn fuan ar ôl marwolaeth Owain yn 1170.

Noda Gerallt fod llawer o ddynion lleol wedi addunedu i ymuno â’r groesgad y bore canlynol cyn iddo ef a’r Archesgob fynd i’r offeren yn Llanelwy.

Atgyfnerthwyd y castell yn y 1240au ond adeiladwyd castell o garreg yn ei le yn y 1270au gan y brenin Edward I. Mae olion y beili (yr amddiffynfa allanol o amgylch y mwnt yn y canol) i’w weld yn y cae hyd heddiw.

Cafodd yr engrafiad o’r castell ei gynnwys yn argraffiad 1804 o deithlen Gerallt gan Richard Colt Hoare. Roedd y castell cyntaf ar y bryncyn i’r dde o’r castell hwyrach. Daw’r engrafiad o ddogfen wreiddiol yn Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac fe’i atgynhyrchwyd yma gyda chaniatâd Deon a Chabidwl Cadeirlan Tyddewi.

Mae Twthill yn tarddu o’r Hen Saesneg tot hyll, sef ‘bryn gwyliadwriaeth’. Fel rheol bydd yn cyfeirio at fryn amlwg gerllaw castell lle y gallai gwylwyr weld gelyn yn dynesu. Digwydd yr enw, yn ogystal, yn nhrefi caerog Caernarfon, Harlech a Chonwy, ac yn Tuttle Street yn Wrecsam. Digwydd amryw ffurfiau ar Toot Hill yn Lloegr.

Cod post: LL18 5RL    Map

Diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am fanylion yr enw lle, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
 

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button