Safle Tloty Caergybi, Y Fali

button-theme-workhouses

Saif tai Garth y Felin ar safle tloty, lle'r oedd tlodion yn byw ond yn gorfod gweithio i'w cynnal eu hunain. Roedd y wyrcws yn ysbyty bwthyn o'r 1940au hyd at 1990au. Mae'r llun awyr, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos yr hen wyrcws yn 1957.

Aerial photo of Holyhead workhouse, Valley, in 1957Cefnogai pob plwyf ei tlodion ei hun nes i'r gyfraith newid yn 1834 a phlwyfi wedi'u grwpio gyda'i gilydd yn "Undebau". Am ddegawdau, doedd gan ardal Caergybi ddim tloty ei hun. Yn 1853 fe bleidleisiodd gwarcheidwaid Undeb Caergybi dros y tlawd o drwch blewyn i godi tloty, ond roedd pryderon am gostau. Yn 1866 dywedodd papur newydd lleol bod y rhan fwyaf o'r gwarcheidwaid yn "yn gyson dwp rhag caniatáu" tloty ar gyfer yr ardal gyda nifer anarferol o dlodion "achlysurol a fewnforiwyd". (Roedd llawer o bobl ddigartref Iwerddon yn teithio drwy'r porthladd.)

Gwahoddwyd tendrau ar gyfer adeiladu'r tloty ym 1868. Yn 1869 penodwyd y pâr lleol Edwin a Hannah Foulkes fel y meistr a'r metron cyntaf. Roedden nhw'n byw yno fel gofalwyr gyda'u mab bach.

Roedd gan y tloty ei ysgol a'i athro ei hun. Yn 1879 roedd 32 o plant yno. Daeth llawer o blant i'r wyrcws i ddianc rhag tlodi neu esgeulustod eithafol. Yn 1899, er enghraifft, cyhuddwyd John a Jane Jones o Lanfachraeth o greulondeb i'w plant, a ganfuwyd mewn "cyflwr budr". Cafodd John ei garcharu am fis ac anfonwyd y plant i'r wyrcws.

Gadawodd un ddynes y wyrcws i briodi clerc plwyf Aberffraw yn 1900. Fis ynghynt, gyda chaniatâd y gwarcheidwaid, roedd o wedi archwilio'r carcharorion benywaidd i ddewis gwraig!

Cyhoeddodd Thomas Powell Roberts, a dreuliodd ei blentyndod yn y wyrcws, hunangofiant byr yn 1992. Cafodd ei eni yn Llanddeusant yn 1915 a'i dderbyn i'r wyrcws fel newydd-anedig. Unwaith yr oedd yn ddigon hen, roedd yn sgrwbio lloriau, gwagio toiledau a chasglu cerrig o iard yr ysgol. Roedd nyrs nedd yn ymweld â'r ysgol yn rheolaidd.

Aeth Thomas i'r ysbyty yn Gwalchmai ar ôl cael difftheria yn 11 oed. Dychwelodd mewn ambiwlans y Groes Goch a oedd wedi perthyn i'r fyddin. Roedd yn ganwr da ac yn cynrychioli'r wyrcws pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaergybi yn 1927. Yn 14 oed, cafodd ei anfon i sefydliad gofal meddwl yn Lerpwl, a oedd yn teimlo fel carchar iddo. Ar ôl pum mlynedd yno, ysgrifennodd at fetron wyrcws y Fali a symudwyd ef i wyrcws Rhuthun yn 1933.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL65 3FA    Gweld Map Lleoliad

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button