Safle’r RAF Bodorgan, Malltraeth

theme page link buttonEfallai y byddai'n anodd credu bod y cefn gwlad tawel hwn unwaith wedi cynnal maes awyr yr Awyrlu Brenhinol, gyda'i holl brysurdeb a sŵn.

Aerial photo of RAF Bodorgan in 1942Yn 1940 dechreuodd gwaith ar faes awyr bychan yn agos i bentref Malltraeth. Roedd y tir wedi'i feddianu o Ystâd Bodorgan i'w ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Awyr.

Mae'r lluniau awyr i'w gweld yma drwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru. Tynnwyd y llun uchaf ym mis Mehefin 1942 ac mae'n dangos sut y peintiwyd hen ffiniau'r caeau ar draws y maes awyr, er mwyn twyllo'r gelyn. Mae'r llun isaf yn dangos sut roedd y ffiniau peintiedig wedi diflannu erbyn Awst 1945 (ar ôl i'r rhyfel yn Ewrop ddod i ben).

I ddechrau, roedd RAF Aberffraw, fel y'i gelwid gyntaf, yn gartref i awyrennau di-beilot (biplanes maint llawn) a ddefnyddiwyd fel targedau gan gynwyr yn Tŷ Croes gerllaw. Roedd y dronau yn cael eu galw'n "Queen Bees" ac yn cael eu rheoli gan y radio. Hedfanodd rhai allan i'r môr ar ôl colli rheolaeth, a tharodd un Yr Wyddfa!

Ym mis Mai 1941, atafaelwyd mwy o dir ac ailenwyd y maes awyr yn RAF Bodorgan. Mae'n debyg bod hyn yn haws i bobl nad oeddent yn frodorion ei ynganu! Bryd hynny daeth y maes awyr yn gyfleuster gorlifo ar gyfer yr Uned Cynnal a Chadw yn RAF Penarlâg. Roedd awyrennau cwffio a bomio yn cael eu storio ar y safle.

Er nad oedd y maes awyr erioed wedi dioddef gweithred y gelyn, fe wnaeth sawl awyren o RAF Bodorgan chwalu yn ystod y rhyfel, gan ladd aelodau'r criw.

Aerial photo of RAF Bodorgan in 1945Yn ddiweddarach roedd y maes awyr yn gartref i "gydweithredwyr" o'r Eidal - carcharorion rhyfel a wirfoddolodd i weithio ym Mhrydain ar ôl ildio'r Eidal yn 1943. Erbyn diwedd Rhagfyr 1945, nid oedd angen RAF Bodorgan ac fe ddychwelodd y tir i Ystâd Bodorgan.

Heddiw mae tystiolaeth o bresenoldeb yr RAF o hyd, gan gynnwys sawl "blychau pilsio" amddiffynnol a thyllau dolen (agoriadau cul ar gyfer tanio gwn) yn y waliau. Cytiau concrit sgwat gyda thyllau bychain ar gyfer saethu oedd y blychau pilsio. Os ydych newydd sganio'r codau QR ar groesffordd Hermon, cerddwch 120 metr i'r de ar hyd yr isffordd a Llwybr Arfordir Cymru i weld blwch pils yn y cae ar eich chwith. Ymhellach ar hyd llwybr yr arfordir gallwch weld rhai o'r cyn-awyrendai ar eich dde (i'r gorllewin o'r ffordd). Gweler y marcwyr ar y map isod.

Gyda diolch i Adrian Hughes o Amgueddfa Ffrynt Cartref, Llandudno, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button