Eglwys Sant Padarn, Llanberis

Eglwys Sant Padarn, Llanberis

Gosodwyd y garreg sylfaen yn 1884. Cysegrwyd yr eglwys ar 24ain o Orffennaf 1885. Eglwys Sant Peris yn Nant Peris oedd eglwys wreiddiol yr ardal, ond roedd hi’n fach a tua 4km i'r de-ddwyrain o Llanberis. Fel y cynydda’r boblogaeth gyda thwf y chwarel rhaid oedd cael addoldy yn nes a llawer mwy.

I ddechrau yn y ‘club house’ yn y pentref yr addolwyd. Yna symudwyd i'r ‘Church House’ (tu cefn i’r Rheithordy) am y 15 mlynedd nesaf. Codwyd yr eglwys Sant Padarn gyntaf tua 1872 ond erbyn 1884 roedd mewn cyflwr gwael ac yn llawer rhy fach.

Symudwyd y bedyddfaen canol oesol o eglwys Sant Peris yma. Ni wyddys a’i yr un Sant Padarn, y cysegrwyd yr Eglwys iddo, yw a’r Sant Padarn a sefydlodd fynachlog Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.

Ariannwyd codi’r adeilad gan deulu Assheton Smith, sef perchnogion chwarel Dinorwig a Stad y Faenol. Y cynllunydd oedd Arthur Baker, cyn ddisgybl i Sir George Gilbert Scott. Goruchwyliwyd yr adeiladu gan ei gefnder, Herbert John Baker, a gafodd eu urddo’n farchog am ei gamp fel pensaer mewn dwsinau o drefedigaethau Ymerodraeth Prydain.

I gadw pethau yn y teulu ychydig rhagor, mab yng nghyfraith Arthur Baker, sef Harold Hughes, fu’n gyfrifol am ehangu’r eglwys yn 1914 gan cymaint y gynulleidfa. Ychwanegwyd Capel Mair i’r ochr ogleddol a chwblhawyd corff yr eglwys.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 4TF    Gweld Map Lleoliad

Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button