Eglwys San Pedr, Llanbedr Pont Steffan

button-theme-womenbutton-theme-evacEglwys San Pedr, Llanbedr Pont Steffan

Mae’r cofnod ysgrifenedig cynharaf am eglwys yn y fan hon yn digwydd yn 1291. Mae llawer o’r farn mai’r adeilad presennol a’r tŵr amlwg, yw un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth eglwysig cyfnod Fictoria yn yr ardal. Cafodd yr eglwys ei hadeiladu rhwng 1868 a 1870 a’i chynllunio gan Robert Jewell Withers. Hannai Withers o Wlad yr Haf ac ef a arolygodd ailadeiladu neu wella gwedd llawer o eglwysi Cymru.

lampeter_stained_glass_window_wilhelmina_geddes

Pregethodd Archesgob Caergaint a Gerallt Gymro yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod eu taith drwy Gymru yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Y dyddiad oedd bore’r ail o Ebrill 1188. Pregethwyd yn ogystal gan abadau Sistersaidd Hendy-gwyn ar Daf ac Ystrad Fflur. “Cymerwyd y Groes” gan lawer o wŷr (hynny yw, listiodd llawer o ddynion).

Mae rhai o’r cofebau a geir y tu fewn i’r eglwys yn hŷn na’r adeilad presennol. Yn eu plith mae cofeb i Jane Lloyd, gwraig gyntaf Sir Charles Lloyd o Faesyfelin. Bu hi farw yn 1689. Syr Charles oedd yr Aelod Seneddol lleol rhwng 1689 a 1701.

Mae’r eglwys yn nodedig am ei ffenestri lliw, yn arbennig y ffenestr orllewinol fawr (ar y dde, gyda chaniatâd John Oakley) gan yr artist o Wyddeles Wilhemina Geddes (1887-1955). Hi oedd un o artistiaid gwydr lliw mwyaf blaenllaw ei chyfnod. Heb reswm yn y byd roedd dirfawr ofn cyrff nefol arni. Yn y flwyddyn 2010 enwyd ceudwll ar blaned Mercher er cof amdani!

Comisiynwyd y ffenest orllewinol i goffáu Syr John Charles Harford yn y 1930au. Ataliwyd y gwaith gan yr Ail Ryfel Byd ond fe’i rhoddwyd yn ei lle yn 1946.

Mae ffenestr arall yn darlunio gorymdaith gan filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, eglwys yn llosgi ac angel a’i hadenydd yn friw yn galaru dros filwr clwyfedig. Cofeb yw’r ffenestr hon i John Charles Edmund Davies o’r Fiwsilwyr Brenhinol Cymreig a fu farw ym Mrwydr Arras yn 1917.

Yn rhan isaf y fynwent mae beddau tlodion a fu’n byw yn y tloty gerllaw’r eglwys.

Yn rhan uchaf y fynwent y mae beddau llawer o Bwyliaid a ymgartrefodd yn yr ardal hon naill ai yn ystod yr Ail Ryfel Byd neu’n ddiweddarach. Roedd y rhan fwyaf wedi gwasanaethu yn lluoedd y Cynghreiriaid. Wedi’r rhyfel, dewisodd llawer o Bwyliaid aros ym Mhrydain yn hytrach na dychwelyd i’w mamwlad a oedd erbyn hynny’n wladwriaeth Gomiwnyddol. Roedd rhaid i’r Pwyliaid a ymgartrefodd yn ardal Llanbedr Pont Steffan feistroli iaith newydd yn ogystal â chrefftau ffermwriaeth.

lampeter_grave_of_leokadia_krzepisz

Ar y chwith mae carreg fedd Leokadia Krzepisz, gynt Kopczynska (1907-1980) a dderbyniodd Groes Ddewrder Pwyl yn yr Ail Rhyfel Byd. Roedd hi’n swyddog yn y Gwrthsafiad Pwylaidd, sef y Fyddin Gartref. Bu’n ymladd yng Ngwrthryfel Warsaw yn 1944, pan geisiodd y Fyddin Gartref wthio lluoedd yr Almaen o Warsaw. Pan wrthymosodwyd gan yr Almaen, gwrthododd yr Undeb Sofietaidd helpu nac ychwaith ganiatáu i’r Cyngrheiriaid eraill ddarparu nwyddau o’r awyr. Roedd Leokadia ymhlith y llu o Bwyliaid a gymerwyd yn garcharorion rhyfel cyn i’r Almaen ddinistrio Warsaw. Cafodd ei charcharu yn Oberlangen, gwersyll Ellmynig ar gyfer carcharorion benywaidd.

Yma hefyd mae bedd Andrzej Gdula, un o nifer o swyddogion yn myddin Pwyl a gafodd eu hanfon i gulag yn Siberia gan luoedd diogelwch sofietaidd ar ddechrau’r rhyfel. Llwyddodd i ddianc ac ymuno â byddin gwlad Pwyl yn y Dwyrain Canol. Ar ôl y rhyfel ac wedi cyfnod mewn gwersyll adleoli yn Essex, daeth yma gyda’i wraig. Roedd Maria hithau wedi gwasanaethu ym Mhalestina gyda byddin Gwlad Pwyl.

Gyda diolch i Kristina Zatylna, o'r 'Studium Polski Podziemnej', i Wieslaw Gdula a'r Parch Victoria Hackett, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA48 7ER    Map

Gwefan y plwyf

Manylion am holl wydr lliw yr eglwys - gwefan Gwydr Lliw yn Nghymru

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button