Capel St Trillo, Llandrillo-yn-Rhos
Capel St Trillo, Llandrillo-yn-Rhos
Credir mai'r adeilad bychan hwn yw'r eglwys leiaf yn Ynysoedd Prydain. Mae ganddo ddigon o seddi ar gyfer chwech o bobl yn unig. Mae’r capel wedi’i enwi ar ôl Trillo, sant o’r 6ed ganrif a gododd ei gell yma.
Mae gwasanaethau cymun yn dal i gael eu cynnal yn yr eglwys. Mae'r hen luniau'n dangos y tu mewn a'r tu allan cyn i'r capel gael ei amgáu gan ffens.
Atgyweiriwyd yr adeilad yn helaeth dros y canrifoedd, ac nid yw ei oedran yn hysbys. Mae’n debyg bod cell Sant Trillo wedi’i gwneud o bren a phlethwaith, er efallai ei fod wedi adeiladu wal o gerrig a gasglwyd o’r traeth i amddiffyn yr adeiladwaith rhag gwyntoedd.
Roedd y ffynnon y tu mewn i'r capel yn darparu dŵr yfed i St Trillo. Gallwch weld y ffynnon o flaen yr allor o hyd, os bydd y capel wedi'i ddatgloi. Byddai'r ffynhonnell ddŵr hon wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i adeiladu ei gell yn y fan hon. Am ganrifoedd, bu’r ffynnon hon yn cyflenwi dŵr ar gyfer bedyddiadau ar draws plwyf canoloesol helaeth Llandrillo. Roedd ganddi hefyd draddodiad hir o fod yn ffynnon iachaol.
Mae eglwys y plwyf (1km i'r de orllewin) hefyd wedi'i chysegru i Sant Trillo. Ef a sefydlodd Eglwys Sant Trillo yn Llandrillo-yn-Edern yn Sir Ddinbych (rhwng Corwen a’r Bala), yn ôl traddodiad.
Cerddwch ychydig i'r de-ddwyrain ar hyd glan y môr a dylech allu gweld, ar drai, olion cored bysgota ganoloesol Rhos Fynach, un o ddwy a fu unwaith yn bodoli yn Rhos. Roedd cored Rhos Fynach eisoes yn gweithredu adeg y Magna Carta yn 1215. Roedd yn dal i gael ei defnyddio yn 1865, pan ddaliodd siarc 2.4 metr o hyd, ac yn 1907, pan ddaliodd 10 tunnell o fecryll ar un llanw! Daeth y gored i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Tynnwyd ei stanciau pren yn ddiweddarach i atal difrod i gychod.
Gyda diolch i Ian Reid a John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn
Cod post: LL28 4HS Map